Ynglŷn â’r cwrs hwn
Bydd y cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth yng nghyd-destun lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Cymhwyster sy’n seiliedig ar wybodaeth yw hwn ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol sy’n bwriadu symud ymlaen i rôl reoli. Mae’r cymhwyster hwn yn darparu cyfle ‘camu ymlaen’ i ddysgwyr sydd am symud ymlaen i Lefel 5.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i ddysgwyr ddatblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth allweddol sy’n sail i arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n ofynnol i ddysgwyr gwblhau’r cymhwyster hwn (neu gymhwyster cymharol y cytunwyd arno) cyn cymryd y cymhwyster Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.
I gyflawni’r cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 60 credyd. Rhaid cyflawni o leiaf 60 credyd o’r grŵp unedau Gorfodol (isod). Y gofyniad oriau dysgu dan arweiniad lleiaf ar gyfer y cymhwyster hwn yw 335.
Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).
Pan fyddwch chi’n cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych chi’n ei chwblhau a’ch anghenion penodol eich hun.
Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell.
Ar ôl cofrestru, bydd asesydd hefyd yn cael ei neilltuo i ddysgwyr. Drwy gydol y cymhwyster, bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, drwy Microsoft Teams) bob mis, i gefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.
Mae dysgwyr yn cael eu cefnogi a’u hannog drwy gydol eu cymhwyster i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol.
Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:
• Rheolwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Dirprwy mewn gwasanaethau Plant
I ddechrau Prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:
- yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
- yn byw yng Nghymru
- ddim mewn addysg amser llawn
- ddim yn cael mynediad at unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi Prentisiaeth yma
Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd fod:
- wedi’ch cyflogi am o leiaf 16 awr
- wedi’ch cefnogi gan eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
- wedi ymrwymo i ymgymryd â chyfartaledd o 4-6 awr o astudio am fis
- gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
- wedi’ch cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru