Ynglŷn â’r cwrs hwn
Mae marchnata digidol yn sbarduno llwyddiant busnes modern, gan gyfuno creadigrwydd a data i ymgysylltu â chynulleidfaoedd. Gyda newid technolegol cyflym a galw cynyddol am weithwyr proffesiynol medrus, mae’r prentisiaeth hon yn cynnig llwybr clir i feistrolaeth—gan gyfuno cymhwysedd ymarferol a gwybodaeth broffesiynol i helpu dysgwyr a chyflogwyr i ffynnu yn economi gystadleuol, ddigidol-gyntaf heddiw.
Mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy’n gweithio mewn rolau marchnata ac sydd am gryfhau eu harbenigedd digidol, yn ogystal â’r rhai sy’n edrych ymlaen at swyddi strategol. Mae’n addas i weithwyr mewn busnesau bach a chanolig sy’n rheoli ymgyrchoedd aml-sianel, a gweithwyr proffesiynol mewn sefydliadau neu asiantaethau mwy sy’n chwilio am wybodaeth uwch am farchnata digidol a chymhwysedd ymarferol.
I ennill cymhwyster Diploma Lefel 4 CIM mewn Marchnata Digidol, Datblygu a Strategaeth, rhaid i ddysgwyr gwblhau pob uned orfodol a dewis unedau dewisol. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddewis unedau sy’n cyd-fynd â’ch rôl ac anghenion busnes. Am drosolwg o’r holl unedau, ewch i wefan Agored Cymru a chwiliwch am ‘Diploma Lefel 4 mewn Marchnata Digidol, Datblygu a Strategaeth’
Mae unedau gorfodol yn cynnwys:
- Dadansoddi Data
• Cydweithio Digidol
• Cynnwys Digidol ar gyfer Sianeli Cyfryngau Cymdeithasol
• Rheoli Prosiect Datblygu Cynnwys Digidol
• Moeseg Busnes
Pan fyddwch chi’n cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych chi’n ei chwblhau a’ch anghenion penodol eich hun.
Bydd gan bob dysgwr Aelodaeth CIM gyda chyfoeth o adnoddau dysgu trwy’r Hwb CIM am hyd y cymhwyster.
Bydd asesydd yn cyfarfod â’r ymgeisydd unwaith y mis am oddeutu dwy awr. Yn ogystal, bydd tua deuddeg awr o waith yn cael ei osod iddynt i’w gwblhau cyn eu cyfarfod nesaf.
Bydd datblygiad sgiliau gwybodaeth yn cael ei gyflawni trwy fynychu pum gweithdy a fydd yn digwydd ar sail dreigl. Bydd arholiadau dan oruchwyliaeth CIM yn cael eu cwblhau ar ôl mynychu pob gweithdy.
Rhoddir cefnogaeth i bob dysgwr gan ddefnyddio offer cyflwyno o bell rhyngweithiol (podlediadau, fideos a gweminarau), llyfrau gwaith rhyngweithiol, cyfeirio at offer digidol sydd ar gael a thrwy gefnogaeth un i un gan y tîm asesu.
Bydd gan bob dysgwr Aelodaeth CIM gyda chyfoeth o adnoddau dysgu.
Cefnogir ac anogir dysgwyr drwy gydol eu cymhwyster i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol.
Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:
- Rheolwr Marchnata Digidol – arwain strategaethau aml-sianel a dadansoddeg perfformiad.
- Rheolwr Ymgyrchoedd – goruchwylio ymgyrchoedd integredig ar gyfer cleientiaid amrywiol neu brosiectau ar raddfa fawr.
- Arbenigwr Marchnata a SEO – optimeiddio technoleg a strategaethau chwilio i wneud y mwyaf o ROI.
I ddechrau Prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:
- yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
- yn byw yng Nghymru
- ddim mewn addysg amser llawn
- ddim yn cael mynediad at unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi Prentisiaeth yma
Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd fod:
- wedi’ch cyflogi am o leiaf 16 awr
- wedi’ch cefnogi gan eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
- wedi ymrwymo i ymgymryd â chyfartaledd o 4-6 awr o astudio am fis
- gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
- wedi’ch cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru