16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn

Mae ein Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cwmpasu llawer o agweddau allweddol ar Wasanaeth Cwsmeriaid yn y gweithle. Gyda ffocws ar ddatblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen mewn cyflogaeth.

Mae’r rhaglen hon ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio yn y sector gwasanaeth cwsmeriaid a sectorau cysylltiedig eraill e.e. canolfan gyswllt a gwerthu. Gall dysgwyr fod wedi symud ymlaen o Ddiploma mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid Lefel 2.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

  • Trefnu a Chyflenwi gwasanaeth cwsmeriaid
  • Deall yr amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid
  • Datrys problemau cwsmeriaid
  • Deall cwsmeriaid a chadw cwsmeriaid
  • Rheoli perfformiad a datblygiad personol

Pan fyddwch chi’n cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych chi’n ei chwblhau a’ch anghenion penodol eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell.

Ar ôl cofrestru, bydd asesydd hefyd yn cael ei neilltuo i ddysgwyr. Drwy gydol y cymhwyster, bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, drwy Microsoft Teams) bob mis, i gefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Mae dysgwyr yn cael eu cefnogi a’u hannog drwy gydol eu cymhwyster i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol.

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:

  • Goruchwyliwr Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Rheolwr Perthynas â Chwsmeriaid
  • Arweinydd Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Swyddog Gwasanaethau Cleientiaid
  • Cydlynwyr Digwyddiadau

I ddechrau Prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg amser llawn
  • ddim yn cael mynediad at unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru

Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi Prentisiaeth yma

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd fod:

  • wedi’ch cyflogi am o leiaf 16 awr
  • wedi’ch cefnogi gan eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • wedi ymrwymo i ymgymryd â chyfartaledd o 4-6 awr o astudio am fis
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • wedi’ch cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy