16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 5

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn

Bydd ein cymhwyster Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth, eu hymddygiadau, eu sgiliau a’u hymarfer o fewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Bydd cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i wneud cais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel Rheolwr Cofrestredig, ar yr amod eu bod hefyd yn bodloni’r holl ofynion cofrestru eraill.

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y rhai mewn rôl Arweinyddiaeth neu Reolaeth o fewn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (neu gymhwyster cymharol y cytunwyd arno).

I gyflawni cymhwyster Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer, rhaid i ddysgwyr gyflawni o leiaf 120 credyd yn gyfan gwbl.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

Pan fyddwch chi’n cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych chi’n ei chwblhau a’ch anghenion penodol eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell.

Ar ôl cofrestru, bydd asesydd hefyd yn cael ei neilltuo i ddysgwyr. Drwy gydol y cymhwyster, bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, drwy Microsoft Teams) bob mis, i gefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog drwy gydol eu cymhwyster i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol.

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:

  • Rheolwr Lleoliad
  • Dirprwy Reolwr

I ddechrau Prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg amser llawn
  • ddim yn cael mynediad at unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru

Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi Prentisiaeth yma

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd fod:

  • wedi’ch cyflogi am o leiaf 16 awr
  • wedi’ch cefnogi gan eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • wedi ymrwymo i ymgymryd â chyfartaledd o 4-6 awr o astudio am fis
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • wedi’ch cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 5

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy