16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 2

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn

Mae ein Prentisiaeth Diploma Lefel 2 City and Guilds mewn Barbwrio yn rhoi ystod o sgiliau i ddysgwyr sydd eu hangen i lwyddo yn y sector barwrio, gan gynnwys sgiliau barwrio traddodiadol, yn ogystal â thechnegau arbenigol newydd.

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn salon proffesiynol mewn rôl sy’n gysylltiedig â barbwrio.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

Mae unedau gorfodol yn cynnwys:

  • Torri Gwallt Dynion Gan Ddefnyddio Technegau Sylfaenol
  • Torri Gwallt Wyneb i Siâp Gan Ddefnyddio Technegau Sylfaenol
  • Sychu a Gorffen Gwallt Dynion
  • Creu Amlinelliadau a Manylion Sylfaenol mewn Gwallt
  • Siampio, Cyflyru a Thrin y Gwallt a Chroen y Pen
  • Datblygu a Chynnal Effeithiolrwydd yn y Gwaith
  • Cynghori ac Ymgynghori â Chleientiaid

Pan fyddwch chi’n cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych chi’n ei chwblhau a’ch anghenion penodol eich hun.

 

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell.

Ar ôl cofrestru, bydd asesydd hefyd yn cael ei neilltuo i ddysgwyr. Drwy gydol y cymhwyster, bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, drwy Microsoft Teams) bob mis, i gefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Ar ôl cwblhau, gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen i Brentisiaeth Barbwr Lefel 3. Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog drwy gydol eu cymhwyster i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol.

Mae Hyfforddiant ACT yn gwerthfawrogi’r profiad dysgu i’r dysgwyr ac yn annog pawb i anelu at gyrraedd eu nodau, hyrwyddo dysgu deniadol a chyfareddol ynghyd â chynnig cyfle i ymgeiswyr addas gymryd rhan mewn cystadlaethau a sioeau mewnol ac allanol e.e. Salon Cymru, Sgiliau’r Byd, Yr Eisteddod a Sioe Gwallt a Harddwch Cymru.

I ddechrau Prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg amser llawn
  • ddim yn cael mynediad at unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd fod:

  • wedi’ch cyflogi am o leiaf 16 awr
  • wedi’ch cefnogi gan eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • wedi ymrwymo i ymgymryd â chyfartaledd o 4-6 awr o astudio’r mis
  • yn gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • wedi’ch cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau cytundebol yng Nghymru

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 2

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy