16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn

Mae marchnata digidol yn cyfeirio at ddefnyddio sianeli a thechnolegau digidol i hyrwyddo cynhyrchion, gwasanaethau neu frandiau. Gall y sianeli hyn gynnwys llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, safleoedd rhannu fideos, hysbysebion arddangos ar wefannau, marchnata e-bost, a mwy.

Mae’r Brentisiaeth hon wedi’i chynllunio i gefnogi dysgwyr gyda’r holl sgiliau sy’n angenrheidiol i weithio yn y diwydiant marchnata. Byddwch yn edrych ar y technegau a’r datblygiadau technolegol diweddaraf yn y gweithle i ysgogi creadigrwydd, cynhyrchiant ac effeithlonrwydd.

Mae’r Brentisiaeth hon ar gyfer ymgeiswyr sy’n gyfrifol am gefnogi marchnata yn eu gweithle ac sy’n awyddus i ddysgu sgiliau newydd neu wella eu cymhwysedd mewn marchnata os yw’n rhan o’u rôl swydd.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

Mae unedau gorfodol yn cynnwys:

  • Defnyddio technoleg gydweithredol
  • Egwyddorion marchnata a gwerthuso
  • Datblygu eich proffesiynoldeb eich hun
  • Metricau a dadansoddeg marchnata digidol

Pan fyddwch chi’n cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych chi’n ei chwblhau a’ch anghenion penodol eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell.

Ar ôl cofrestru, bydd asesydd hefyd yn cael ei neilltuo i ddysgwyr. Drwy gydol y cymhwyster, bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, drwy Microsoft Teams) bob mis, i gefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Cefnogir ac anogir dysgwyr drwy gydol eu cymhwyster i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol.

Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:

  • Cynorthwyydd marchnata
  • Cydlynydd marchnata
  • Cynorthwyydd marchnata arddangos
  • Cynorthwyydd marchnata cynnwys

I ddechrau Prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg amser llawn
  • ddim yn cael mynediad at unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru

Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi Prentisiaeth yma

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd fod:

  • wedi’ch cyflogi am o leiaf 16 awr
  • wedi’ch cefnogi gan eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • wedi ymrwymo i ymgymryd â chyfartaledd o 4-6 awr o astudio am fis
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • wedi’ch cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy