Mae ALS wedi partneru â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i lansio micro-gymwysterau mewn Blockchain a Rheoli Data
Mae ALS a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi partneru i ddarparu cymwysterau micro-gredyd newydd mewn Hanfodion Blockchain a Rheoli Data a Gwybodaeth, gan gefnogi uwchsgilio ac ailsgilio gweithwyr ledled Cymru.
Wedi’u datblygu mewn ymateb i anghenion clir dysgwyr a diwydiant, mae’r cyrsiau hyn yn creu cyfleoedd newydd i unigolion ennill sgiliau digidol y mae galw mawr amdanynt. Maent hefyd yn darparu llwybr dilyniant i astudiaeth lefel uwch mewn gwyddor data a pheirianneg. Mae’r fenter yn dangos grym cydweithio rhwng prifysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant i greu taith ddysgu ddi-dor o’r dechrau i’r diwedd.
Mae pob cwrs yn werth 20 credyd a gall gyfrannu tuag at gymhwyster prentisiaeth Peiriannydd Data Lefel 5 yn y dyfodol. Yn agored i ddysgwyr o bob oed, mae’r micro-gymwysterau yn defnyddio elfennau allweddol o ddarpariaeth prentisiaethau ac wedi’u cyflwyno mewn fformat hyblyg a hygyrch sydd wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion gweithlu heddiw.
Beth sydd ar gael?
Hanfodion Blockchain:
Bydd dysgwyr yn archwilio:
-
- Egwyddorion craidd blockchain a thechnolegau cyfriflyfr gwasgaredig
-
- Creu arian cyfred digidol, gan gynnwys mwyngloddio a chadw gwerth.
-
- Dadansoddi graffiau blockchain
-
- A mwy.
Rheoli Data a Gwybodaeth:
Bydd dysgwyr yn ymdrin â:
-
- Cysyniadau sylfaenol ar gyfer prosesau ac adeiladu systemau rheoli.
-
- Asesu a gweithredu gwahanol fathau o fodelau data a phensaernïaeth cronfeydd data.
-
- Technegau ar gyfer rheoli gwybodaeth, data a gwybodaeth yn effeithiol.
-
- A mwy.
Cyflwynir y fenter hon mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a gyda chyllid a sicrhawyd drwy Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, fel rhan o’r prosiect Llwybrau Trydyddol Hyblyg ar gyfer Uwchsgilio ac Ailsgilio Dysgwyr yng Nghymru.
Mae Medr wedi comisiynu deuddeg prosiect ledled Cymru i archwilio ffyrdd newydd o weithio ar draws sefydliadau addysg drydyddol a ffiniau daearyddol, gan arwain at sector mwy cydlynol a chydweithredol.