Mae cyflogwr Anne Reardon-James yn ei disgrifio fel “ymgorfforiad o ddysgu gydol oes”, gan fod ganddi awydd gwirioneddol i ddysgu, ac mae’n rhannu ei gwybodaeth i ysbrydoli ei dysgwyr a’i chydweithwyr yn y rhwydwaith dysgu ôl-16 yng Nghymru.
Mae Anne, 46 oed, sy’n byw yn y Barri, yn Gynghorydd Dysgu gyda Panda Education and Training, gan gyflwyno Prentisiaethau mewn Dysgu a Datblygu mewn partneriaeth ag ALS Training.
Cafodd ei gwobrwyo am ei hymrwymiad pan enillodd wobr Tiwtor y Flwyddyn Inspire! 2023 y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar gyfer Sgiliau Gwaith.
Bellach, mae Anne wedi cyrraedd rhestr fer fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 fel ymgeisydd terfynol yng nghategori Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn.
Fel un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, darparwyr dysgu seiliedig ar waith ac ymarferwyr, trefnir y gwobrau gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). EAL yw’r prif noddwr.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd, ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n amlygu cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
Ar hyn o bryd, mae Anne yn gweithio tuag at Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg. Mae ganddi radd MA mewn Addysg, TAR, gradd yn y Gwyddorau Ymddygiadol, ac mae’n Gymrawd SET, yn Gymrawd Cysylltiol CIPD ac Advance HE.
Mae wedi gweithio ym maes addysg ôl-16 ers 17 mlynedd, ar ôl addysgu llythrennedd a rhifedd i oedolion yn y gymuned, cyflwyno sgiliau hanfodol i ddysgwyr cyflogedig a datblygu rhaglenni dysgu ar gyfer y gwasanaethau prawf a charchardai.
Gan fod ganddi angerdd dros ddysgu gydol oes, mae Anne yn ysbrydoli ei dysgwyr drwy arddangos technegau a dulliau addysgu a dysgu y gallant eu defnyddio yn eu hymarfer eu hunain.
Mae Anne yn cynnal gweithdai hyfforddi ar-lein gan ddefnyddio technoleg ddigidol i wella dysgu, yn cynnal cyfarfodydd mentora misol ac yn darparu cymorth personol wedi’i deilwra i ddysgwyr ledled Cymru.
Mae’n olygydd ar y cyfnodolyn Research and Practices in Adult Literacies, yn cyhoeddi blogiau, yn siarad mewn cynadleddau ac yn rhannu syniadau, adnoddau ac arfer da gyda grwpiau rhwydweithio ar-lein.
Mae Anne hefyd yn wirfoddolwr brwd, gan addysgu Saesneg i ffoaduriaid o Wcráin a’u cefnogi yn ei chartref ei hun, yn ogystal â siopa ar ran cleientiaid sy’n gaeth i’w cartrefi ac ymweld â nhw.
Dywedodd Rachel Arnold, cyfarwyddwr Panda Education and Training: “Mae Anne yn gwneud mwy na’r disgwyl i gefnogi ei dysgwyr. Mae’n byw ac yn anadlu ein gwerthoedd craidd – parch, ansawdd ac arloesedd.”
Dywedodd Anne: “Mae’n wych gallu helpu i fentora a chefnogi pobl i oresgyn eu rhwystrau, ac rwyf bob amser yn rhoi cynnig ar wahanol ffyrdd o gyflwyno. Rwy’n hyrwyddo ac yn codi statws dysgu oedolion pryd bynnag y gallaf.”
Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Anne a’r holl ymgeiswyr terfynol eraill. “Arbenigwyr yfory fydd prentisiaid heddiw, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a chyflogwyr sydd wedi gwneud mwy na’r disgwyl,” meddai.
“Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill ac economi ehangach Cymru yn ysbrydoledig. Dymunaf bob lwc i bob un o’r ymgeiswyr terfynol yn y gwobrau ac yn eu hymdrechion yn y dyfodol.”
Wrth longyfarch yr ymgeiswyr terfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni.
“Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol drwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o gyflawniad, gan sicrhau ar yr un pryd fod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion newidiol y diwydiant.
“Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae cydnabod cyflawniadau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol i hyn.”
Am ragor o wybodaeth, gweler recriwtio prentis, neu ffoniwch 03000 603000.