16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Straeon Llwyddiant Prentisiaid

Mae’r Brentis Uwch Katie Trembath yn chwarae rhan allweddol wrth helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gyrraedd targedau heriol ar gyfer datgarboneiddio a newid hinsawdd.

Fel swyddog lleihau carbon, mae Katie, 27 oed, o Gwm Clydach, yn ymwneud â datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, gan gynnwys fferm solar chwe megawat a chynlluniau trydan dŵr, yn ogystal ag ystod o waith arall i leihau ôl troed carbon y cyngor.

Mae’r sgiliau a’r wybodaeth a enillodd yn ystod ei Phrentisiaeth Uwch mewn Rheoli Prosiectau, a gyflwynwyd gan ALS Training, ynghyd â chymhwyster Prince2, yn allweddol i’w rôl. Mae gradd ôl-raddedig i gefnogi ei gwaith ymhellach hefyd yn opsiwn ar gyfer y dyfodol.

Bellach, mae Katie wedi cyrraedd rhestr fer fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 fel ymgeisydd terfynol yng nghategori Talent Yfory.

Fel un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, darparwyr dysgu seiliedig ar waith ac ymarferwyr, trefnir y gwobrau gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). EAL yw’r prif noddwr.

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd, ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n amlygu cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Mae Katie wedi rhagori ar ddisgwyliadau drwy reoli prosiectau a dod o hyd i atebion arloesol i heriau wrth i’r cyngor geisio dod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.

Ar ôl ennill gradd gan y Brifysgol Agored mewn Gwyddor Amgylcheddol a Daearyddiaeth, cafodd Katie ei recriwtio gan y cyngor fel swyddog graddedig ynni a lleihau carbon ym mis Mehefin 2022. Cyn hynny, bu’n gweithio ym maes rheoli manwerthu am saith mlynedd, gan ennill Prentisiaeth mewn Rheoli Manwerthu.

Gan fod ganddi angerdd dros leihau carbon ac ynni adnewyddadwy, mae’n rhannu arfer gorau gyda chynghorau eraill ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Garbon, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, tirfeddianwyr a pheirianwyr.

“Rwyf bob amser wedi ymddiddori mewn ynni adnewyddadwy a lleihau carbon, sy’n bynciau amserol iawn wrth i Lywodraeth Cymru geisio sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru yn sero net erbyn 2030,” meddai Katie.

“Mae’r brentisiaeth uwch yn bendant yn helpu fy ngwaith ac mae’n berffaith ar gyfer rheoli prosiectau. Rwyf am ddatblygu fy ngyrfa a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned lle rwy’n byw ar yr un pryd.”

Dywedodd Jon Arroyo, rheolwr ynni a lleihau carbon Cyngor RhCT: “Mae Katie wedi profi ei bod yn gaffaeliad mawr i Dîm Ynni’r Ystadau Corfforaethol, a bydd ganddi ddyfodol cyffrous yn gweithio gyda thechnolegau newydd ac arloesol i fynd i’r afael â’r her sero net.

“Mae ei hymroddiad a’i hymrwymiad i’w rôl wedi bod yn rhagorol, ac mae’n siŵr y bydd yn chwarae rhan hollbwysig wrth fynd i’r afael â her fwyaf y byd o ran newid hinsawdd.”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Katie a’r holl ymgeiswyr terfynol eraill. “Arbenigwyr yfory fydd prentisiaid heddiw, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a chyflogwyr sydd wedi gwneud mwy na’r disgwyl. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill ac economi ehangach Cymru yn ysbrydoledig. Dymunaf bob lwc i bob un o’r ymgeiswyr terfynol yn y gwobrau ac yn eu hymdrechion yn y dyfodol.”

Wrth longyfarch yr ymgeiswyr terfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni.

“Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol drwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o gyflawniad, gan sicrhau ar yr un pryd fod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion newidiol y diwydiant.

“Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae cydnabod cyflawniadau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol i hyn.”

Am ragor o wybodaeth, gweler recriwtio prentis neu ffoniwch 03000 603000.

 

Rhannwch