Ydych chi’n barod i fynd â’ch gyrfa yn y proffesiwn pobl i’r lefel nesaf?
Peidiwch ag edrych ymhellach na chymwysterau’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) mewn Ymarfer a Rheoli Pobl. Gan gynnig sylfaen gadarn sy’n ymgorffori Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu, mae’r cymwysterau hyn wedi’u teilwra i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi a’ch sefydliad i ragori.
Drwy ALS, gallwch gael cyllid llawn ar gyfer y cymwysterau achrededig hyn. P’un a ydych newydd ddechrau neu’n awyddus i symud ymlaen yn eich rôl bresennol, mae ein cymwysterau’n cynnig y cyfle perffaith i wneud eich marc ar y proffesiwn. Wedi’u cynllunio ar gyfer y rhai sy’n dechrau gyrfa ym maes ymarfer pobl neu sy’n dymuno gwella eu sgiliau presennol, mae’r cymwysterau hyn yn rhoi mantais gychwynnol i chi ym maes cystadleuol Adnoddau Dynol.
Bydd gofyn i ddarpar ddysgwyr gwblhau unedau craidd gorfodol sydd wedi’u cynllunio i roi dealltwriaeth gadarn i chi o arfer gorau mewn Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu, er mwyn cefnogi’r rhai sy’n gweithio ar lefel weithredol. Cewch eich asesu ar eich gallu i ymdrin â sefyllfaoedd go iawn ac i gwblhau unedau arbenigol mewn rheoli cysylltiadau cyflogaeth, cynllunio’r gweithlu, strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant, a llawer mwy.
Ar ôl cwblhau’r cymwysterau, bydd cyfranogwyr yn gymwys i gael Aelodaeth Gysylltiol o’r CIPD, sy’n gydnabyddiaeth uchel ei bri o’ch arbenigedd a’ch ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol. Mae’r diplomâu hyn yn agor y drws i amrywiaeth o rolau Adnoddau Dynol, gan gynnwys Swyddog Gweithredol Adnoddau Dynol, Rheolwr Adnoddau Dynol a Rheolwr Dysgu a Datblygu Staff.
Y tri chymhwyster sydd ar gael drwy ALS ar hyn o bryd yw: