Ynglŷn â’r cwrs hwn
Mae Prentisiaeth Dadansoddwr Seiberddiogelwch Lefel 3 wedi’i llunio ar y cyd â chyflogwyr yng Nghymru i roi’r prif sgiliau seiberddiogelwch sydd eu hangen ar weithwyr i allu helpu i nodi a rheoli risgiau seiberddiogelwch, gan gynorthwyo i ddiogelu cyfanrwydd asedau seiber. Nod y rhaglen brentisiaeth hon yw darparu llwybr galwedigaethol cadarn i ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i lwyddo fel dadansoddwr seiberddiogelwch.
I bwy mae’r brentisiaeth?
- Wedi’i llunio ar gyfer unigolion sy’n anelu at ddatblygu eu gyrfa ym maes heriol seiberddiogelwch.
- Yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am wella eu sgiliau ar gyfer rôl seiberddiogelwch sy’n cynnwys mwy o gyfrifoldeb.
- Yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes seiberddiogelwch sydd am gadarnhau eu harbenigedd gyda chymhwyster achrededig.
Cyflymu twf eich gyrfa: Bydd y brentisiaeth Dadansoddwr Seiberddiogelwch Lefel 3 yn rhoi’r sgiliau technoleg gwybodaeth hanfodol a’r profiad ymarferol sydd eu hangen i roi hwb sylweddol i yrfa sy’n datblygu ar draws ystod eang o sectorau diwydiannol.
Ardystiad a gydnabyddir gan y diwydiant: Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd prentisiaid yn ennill ardystiad a gydnabyddir gan y diwydiant, gan roi mantais gystadleuol iddynt yn y farchnad swyddi. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r arbenigedd a enillir drwy’r brentisiaeth hon, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous.
Dysgu ymarferol ac yn y byd go iawn: Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu ymarferol sy’n berthnasol i’r byd go iawn. Bydd prentisiaid yn ymarfer sgiliau yn y gweithle, gan gydweithio â chydweithwyr profiadol a derbyn cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol ALS a fydd yn eu harwain drwy bob cam o’r broses.
Cwricwlwm wedi’i deilwra: Mae ein cwricwlwm cynhwysfawr wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion technoleg gwybodaeth sefydliadau ar draws economi Cymru a thu hwnt. Byddwch yn dysgu am bynciau hanfodol fel diogelwch systemau, dadansoddi bygythiadau a risgiau, datblygiad parhaus, a phroffesiynoldeb.
Cynghorwyr profiadol a gwybodus: Drwy gydol y brentisiaeth, byddwn yn rhoi mynediad i chi at rwydwaith o gynghorwyr profiadol a fydd yn cynnig arweiniad, hyfforddiant, cefnogaeth ac adborth.
Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol. Isod ceir trosolwg byr o’r pynciau a gwmpesir.
- Diogelwch Systemau TG a Thelathrebu
- Iechyd a Diogelwch ym maes TG
- Egwyddorion Llywodraethu a Sicrwydd Gwybodaeth
- Cynnal Asesiad Risg Diogelwch Gwybodaeth
- Cynnal Gweithgareddau Rheoli Digwyddiadau Diogelwch Gwybodaeth
- Ymarfer Proffesiynol mewn Cyd-destun TG
A llawer mwy…
- Hyd nodweddiadol o 21 mis.
- Sesiwn sefydlu ar gyfer prentisiaid a’u rheolwyr llinell.
- Sesiynau hyfforddi tiwtor un-i-un a chymorth asesu.
- Cefnogaeth gan adnoddau astudio annibynnol ar-lein.
- 4 diwrnod asesu sgiliau hanfodol (2 ddiwrnod paratoi a 2 ddiwrnod tasg fyw).
- Profion cadarnhau sgiliau hanfodol dwy awr o hyd.
Nid yw gweithgareddau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol i brentisiaid sydd ag eithriadau.
- Diploma Lefel 3 fel Dadansoddwr Diogelwch Seiber
- Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cyfathrebu
- Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhifau
Lawrlwytho amlinelliad llawn y cwrs
Lawrlwytho PDFDiddordeb mewn cofrestru?