Ynglŷn â’r cwrs hwn
Mae’r brentisiaeth Lefel 3 mewn Yswiriant yn gam tuag at yrfa werth chweil ym myd deinamig yswiriant. Gan ddarparu sylfaen mewn yswiriant cyffredinol a rhoi cyfle i brentisiaid arbenigo mewn meysydd sy’n cyd-fynd â’u dyheadau gyrfa ac anghenion eu cyflogwr, mae’r cymhwyster hwn, sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i ddysgwyr er mwyn cychwyn gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant yswiriant.
I bwy mae’r brentisiaeth?
- Yn ddelfrydol ar gyfer prentisiaid sy’n dymuno cael gyrfa yn y diwydiant yswiriant.
- Yn berffaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes yswiriant sydd eisoes yn gweithio yn y sector ac eisiau datblygu eu sgiliau i ymateb i heriau’r diwydiant yswiriant modern.
- Cymhwyster achrededig i weithwyr proffesiynol ym maes yswiriant ddilysu eu cymhwysedd a’u gwybodaeth am y diwydiant yswiriant.
Cyflymu Twf Gyrfa: Bydd ymgymryd â phrentisiaeth Lefel 3 mewn Yswiriant yn darparu’r sgiliau hanfodol, y wybodaeth a’r profiad ymarferol i bweru gyrfa sy’n datblygu yn y diwydiant yswiriant.
Ardystiad Cydnabyddedig gan y Diwydiant: Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd Prentisiaid yn ennill ardystiad cydnabyddedig gan y diwydiant, gan roi mantais gystadleuol iddynt yn y farchnad swyddi. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r arbenigedd a enillir trwy’r brentisiaeth hon, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous.
Dysgu Ymarferol a Byd Go Iawn: Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu ymarferol, byd go iawn. Bydd Prentisiaid yn ymarfer sgiliau yn y gweithle gan gydweithio â chydweithwyr profiadol a’u cefnogi gan weithwyr proffesiynol ALS a fydd yn tywys y prentis trwy bob cam o’r broses.
Cwricwlwm wedi’i Deilwra: Mae ein cwricwlwm cynhwysfawr wedi’i gynllunio i ddiwallu gofynion y diwydiant yswiriant sy’n esblygu’n barhaus. Bydd y brentisiaeth yswiriant yn archwilio’r fframweithiau rheoleiddio sy’n berthnasol i’r diwydiant yswiriant, egwyddorion ac arferion broceriaeth, tanysgrifennu a thrin hawliadau, ochr yn ochr â’r sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a gwaith tîm i feithrin perthnasoedd proffesiynol parhaol.
Cynghorwyr Profiadol a Gwybodus: Drwy gydol y brentisiaeth, byddwn yn darparu mynediad at rwydwaith o gynghorwyr profiadol a fydd yn cynnig arweiniad, hyfforddiant, cefnogaeth ac adborth.
Mae’r brentisiaeth hon yn cynnwys cyfuniad o unedau gorfodol ac unedau dewisol. Byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa fodiwlau dewisol sydd fwyaf addas i chi ac i’ch rôl swydd.
Mae’r unedau’n cynnwys:
- Cydymffurfio â rheoliadau o fewn yr amgylchedd gwasanaethau ariannol.
- Cynnal asesiad cychwynnol ac ymchwilio i hawliadau yswiriant cymhleth.
- Delio â chwynion yn ymwneud â chynhyrchion a/neu wasanaethau ariannol.
- Delio â hawliadau cymhleth am golledion heb yswiriant.
- Delio â hawliadau cymhleth am golledion sydd wedi’u hyswirio.
- Gwerthuso cynhyrchion a gwasanaethau yswiriant.
- Gwerthuso risg fel cyfryngwr yswiriant a chynghori cyfryngwyr eraill.
- Prosesu busnes yswiriant cymhleth fel cyfryngwr.
- Prosesu adnewyddiadau yswiriant cymhleth.
- Prosesu dogfennaeth polisi cymhleth ar gyfer busnes newydd.
- Darparu gwybodaeth i gwsmeriaid mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol.
A llawer mwy…
- Hyd nodweddiadol o 18 mis.
- Sesiwn gynefino ar gyfer prentisiaid a’u rheolwyr llinell.
- 4 gweithdy hanner diwrnod ar Yswiriant (IF1).
- 3 sesiwn un-i-un dwy awr o hyd i gefnogi’r ail arholiad CII (lle bo angen).
- Cefnogaeth gan adnoddau hunan-astudio ar-lein.
- 2 arholiad CII (IF1 – 2 awr; uned CII ddewisol – 90 munud i 2 awr).
- Sesiynau un-i-un misol i gyflawni eich NVQ.
- 4 diwrnod asesu sgiliau hanfodol (2 ddiwrnod paratoi a 2 ddiwrnod tasg fyw).
* Profion cadarnhau sgiliau hanfodol dwy awr o hyd.
Nid yw gweithgareddau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol i brentisiaid sydd ag eithriadau.
- Tystysgrif NVQ Lefel 3 mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol – Llwybr Yswiriant
- Tystysgrif CII Lefel 3 mewn Yswiriant (Cert CII)
- Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhifau
Efallai na fydd y sgiliau hanfodol yn berthnasol os gall prentisiaid ddangos eu bod wedi’u heithrio
Lawrlwytho amlinelliad llawn y cwrs
Lawrlwytho PDFDiddordeb mewn cofrestru?