Ynglŷn â’r cwrs hwn
Datblygwch eich gyrfa gydag Aprentisiaeth Lefel 4 y Chartered Institute of Procurement and Supply
Wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio mewn rolau caffael, mae’r brentisiaeth hon yn cynnig cyfle perffaith i adeiladu ar eich profiad presennol a mynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf. Byddwch yn ennill gwybodaeth fanwl am brosesau caffael, yn cryfhau eich sgiliau datrys problemau, ac yn datblygu dealltwriaeth glir o sut mae caffael a chyflenwi yn cyfrannu at lwyddiant eich sefydliad.
I bwy mae’r brentisiaeth?
- Yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n datblygu eu gyrfa ym maes caffael a chyflenwi
- Ar gyfer y rhai sy’n gweithio tuag at statws siartredig MCIPS.
Aelodaeth myfyriwr o’r Chartered Institute of Purchasing and Supply (CIPS): Mae aelodaeth myfyriwr ar gyfer y rhai sy’n dilyn rhaglen astudio neu raglen sy’n seiliedig ar gymhwysedd, gan anelu at gwblhau Diploma Graddedig CIPS neu gymhwyster cyfatebol. Mae gan fyfyrwyr fynediad llawn i fanteision CIPS yn ystod eu cyfnod astudio.
Cyflymu Twf eich Gyrfa: Gyda phrentisiaeth Diploma Lefel 4 mewn Caffael a Chyflenwi, byddwch yn mireinio eich sgiliau ac yn ennill profiad ymarferol i hybu eich gyrfa sy’n datblygu ar draws ystod eang o ddiwydiannau.
Ardystiad a Gydnabyddir gan y Diwydiant: Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, byddwch yn ennill ardystiad a gydnabyddir gan y diwydiant, gan roi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r arbenigedd a enillir drwy’r brentisiaeth hon, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous.
Dysgu Ymarferol ac yn y Byd Go Iawn: Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu ymarferol sy’n berthnasol i’r byd go iawn. Byddwch yn ymarfer sgiliau yn y gweithle, gan gydweithio â chydweithwyr profiadol a chael cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol ALS a fydd yn eich arwain drwy bob cam o’r broses.
Cwricwlwm wedi’i Deilwra: Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn ymgolli mewn pynciau hanfodol fel gweinyddiaeth strategol, deinameg sefydliadol, effeithiolrwydd arwain, cydlynu prosiectau, gweinyddiaeth ariannol a rheoli adnoddau dynol.
Cynghorwyr Profiadol a Gwybodus: Drwy gydol eich prentisiaeth, bydd gennych fynediad at rwydwaith o gynghorwyr profiadol a fydd yn darparu arweiniad, hyfforddiant, cefnogaeth ac adborth.
Mae’r Diploma Lefel 4 yn cynnwys **8 uned orfodol** ac mae’r Open Award yn cynnwys **7 uned orfodol**.
Mae’r unedau’n cynnwys:
- Contractio Masnachol
- Cyrchu Moesegol a Chyfrifol
- Negodi Masnachol
- Perthnasoedd â Chyflenwyr
- Rheoli Asedau dros eu Cylch Oes Cyfan
a llawer mwy
Darperir y brentisiaeth hon drwy gyfuniad o sesiynau meistr-ddosbarth, astudio ar-lein a chyfarfodydd unigol i asesu ac adolygu cynnydd.
Caiff Diploma CIPS Lefel 4 mewn Caffael a Chyflenwi ei asesu drwy arholiadau ar y cyfrifiadur, gan ddefnyddio cyfuniad o gwestiynau ac atebion ar ffurf traethawd (Ymatebion a Gynhyrchwyd neu CR) a fformatau arholiad Ymatebion Gwrthrychol (OR).
Mae fformat arholiad OR yn golygu y rhoddir dewis o atebion i chi ar gyfer y cwestiynau, a disgwylir i chi nodi’r ateb cywir. Caiff Tystysgrif Lefel 4 mewn Rheoli Caffael a Chyflenwi (Cymru) ei hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, megis aseiniadau, cynhyrchion gwaith, trafodaeth broffesiynol a thystiolaeth gan dystion, a gesglir mewn e-bortffolio.
- Tystysgrif Gwobr Agored Lefel 4 mewn Caffael a Rheoli Cyflenwadau
- Diploma CIPS Lefel 4 mewn Caffael a Chyflenwi
- Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu*
- Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhifau*
*os oes gennych gymwysterau eisoes, gellir eu defnyddio fel ‘eithriadau’ tuag at eich fframwaith prentisiaeth.
Lawrlwytho amlinelliad llawn y cwrs
Lawrlwytho PDFDiddordeb mewn cofrestru?