Ynglŷn â’r cwrs hwn
Mae prentisiaeth Dadansoddwr Data Lefel 4 wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer y rhai sy’n ceisio gyrfa ym myd blaengar dadansoddi data; gan gynnwys casglu, glanhau, prosesu, dadansoddi, delweddu ac adrodd ar ddata sefydliad er mwyn gwella’r broses o wneud penderfyniadau a dylanwadu ar gyfeiriad strategol y sefydliad.
I bwy mae’r brentisiaeth?
- Yn ddelfrydol ar gyfer dadansoddwyr data sy’n chwilio am yrfa gyflym.
- Yn berffaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am ddatblygu eu sgiliau ar gyfer rolau ym maes dadansoddi data.
- Cymhwyster achrededig i ddadansoddwyr data presennol ddilysu eu profiad.
Cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant: Datblygwyd y Diploma Lefel 4 mewn Dadansoddi Data gan Agored Cymru ar y cyd â sefydliadau blaenllaw yn y sector Data. Nod y cwrs yw darparu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer casglu, dadansoddi a delweddu data, gan ddefnyddio offer a thechnegau sy’n arwain y diwydiant.
Cwricwlwm ymarferol ac perthnasol: Mae ein cwricwlwm, sydd wedi’i lunio’n ofalus, yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau craidd sydd eu hangen ar Ddadansoddwr Data. Caiff ei ddiweddaru’n rheolaidd i sicrhau eich bod yn datblygu’r sgiliau y mae’r diwydiant yn eu gwerthfawrogi.
Opsiynau dysgu hyblyg: Rydym yn deall bod taith ddysgu pawb yn unigryw. Dyna pam rydym yn cynnig opsiynau dysgu hyblyg sy’n diwallu anghenion y prentis, gan eu galluogi i gydbwyso ymrwymiadau gwaith wrth symud ymlaen gyda’r brentisiaeth.
Tiwtoriaid profiadol: Bydd prentisiaid yn dysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant a gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes Data sy’n dod â mewnwelediadau o’r byd go iawn i’r ystafell ddosbarth. Bydd prentisiaid yn elwa ar wybodaeth helaeth a phrofiad ymarferol y tiwtoriaid, gan eu galluogi i ennill safbwyntiau gwerthfawr a dysgu arferion gorau.
Cyfleoedd rhwydweithio: Bydd prentisiaid yn gallu cysylltu â gweithwyr proffesiynol o’r un anian, ehangu eu perthnasoedd proffesiynol, rhwydweithio ac ymgymryd â thrafodaethau gwerthfawr. Mae’r gymuned o brentisiaid yn darparu llwyfan ar gyfer cydweithio, gan eu galluogi i feithrin perthnasoedd a all agor drysau i ddysgu newydd a chyfleoedd newydd.
Datblygiad gyrfa: Gwell rhagolygon gyrfa drwy’r ardystiad cydnabyddedig hwn. Gall y Brentisiaeth Uwch Lefel 4 fod yn sbringfwrdd ar gyfer rolau Data amrywiol, megis Dadansoddwr Data, Dadansoddwr Deallusrwydd Busnes, Gwyddonydd Data, Peiriannydd Data neu Ddadansoddwr Ymchwil Marchnad. Mae hefyd yn paratoi’r ffordd ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach, gan gynnwys y cyfle i symud ymlaen i ail flwyddyn y Brentisiaeth Radd mewn Gwyddor Data Gymhwysol.
Mae’r brentisiaeth hon yn cynnwys cyfuniad o unedau gorfodol ac unedau dewisol. Byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa fodiwlau dewisol sydd fwyaf addas i chi ac i’ch rôl swydd.
Mae’r unedau’n cynnwys:
- Egwyddorion Llywodraethu a Sicrwydd Gwybodaeth
- Egwyddorion Seilwaith Rheoli Data
- Rhaglennu ar gyfer Dadansoddi Data
- Teclynnau Dadansoddi Data
- Dadansoddi Data: Gwyddor Data
- Dadansoddiad Ystadegol o Setiau Data
- Cynrychioli a Thrin Data Uwch ar gyfer TG
- Hyd nodweddiadol o 24 mis.
- Sesiwn gynefino ar gyfer prentisiaid a’u rheolwyr llinell.
- 23 o weithdai diwrnod llawn ar sgiliau a gwybodaeth dechnegol graidd.
- Cefnogaeth gan adnoddau hunan-astudio ar-lein.
- Sesiynau hyfforddi ac asesu un-i-un gan diwtor.
- 4 diwrnod asesu sgiliau hanfodol (2 ddiwrnod paratoi a 2 ddiwrnod tasg fyw).
- Profion cadarnhau sgiliau hanfodol dwy awr o hyd.
Nid yw gweithgareddau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol i brentisiaid sydd ag eithriadau.
- Diploma Lefel 4 Agored Cymru mewn Dadansoddi Data
- Sgil Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhifau
- Sgil Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu
Efallai na fydd sgiliau hanfodol yn berthnasol os gall prentisiaid ddangos eu bod wedi’u heithrio
Lawrlwytho amlinelliad llawn y cwrs
Lawrlwytho PDFDiddordeb mewn cofrestru?