Mae ACT bellach wedi uno â’i chwaer sefydliad, ALS, i ddod yn un sefydliad o dan frand ACT.



                                Bydd gwybodaeth ALS Aerofod yn parhau i fod ar gael ar wefan ALS.
                            

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 4

Lleoliad

Dysgu yn y gweithle

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

Wedi'i ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn

Mae Prentisiaeth Dylunydd Cynnwys Digidol Lefel 4 wedi’i datblygu ar y cyd â chyflogwyr yng Nghymru. Nod y rhaglen yw rhoi’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyflogeion i nodi, dylunio, cyhoeddi a rheoli cynnwys digidol deniadol sy’n diwallu anghenion y sefydliad a’r rhanddeiliaid. Mae’r rhaglen brentisiaeth hon wedi’i chynllunio i ddarparu llwybr galwedigaethol cadarn i ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i lwyddo fel dylunydd cynnwys digidol.

I bwy mae’r brentisiaeth?

  • Wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion sy’n anelu at adeiladu gyrfa ym maes creadigol dylunio cynnwys digidol.
  • Yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am wella eu sgiliau ar gyfer rôl uwch ym maes dylunio cynnwys digidol o fewn eu sefydliad.
  • Yn addas ar gyfer dylunwyr cynnwys digidol profiadol sydd am gadarnhau eu harbenigedd gyda chymhwyster achrededig.

Cyflymu Twf Gyrfa: Bydd ymgymryd â Phrentisiaeth Dylunydd Cynnwys Digidol Lefel 4 yn cyflymu datblygiad gyrfa drwy ddarparu profiad ymarferol amhrisiadwy ochr yn ochr â gwybodaeth ddamcaniaethol. Bydd prentisiaid yn cael eu harfogi â’r offer i ragori fel dylunwyr cynnwys ar draws amrywiaeth o lwyfannau ac i wneud gwahaniaeth mewn unrhyw sefydliad.

Ardystiad a Gydnabyddir gan y Diwydiant: Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd prentisiaid yn ennill ardystiad mawr ei barch a gydnabyddir gan y diwydiant, gan roi mantais gystadleuol iddynt yn y farchnad swyddi. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r arbenigedd a enillir drwy’r brentisiaeth hon, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous.

Dysgu Ymarferol ac yn y Byd Go Iawn: Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu ymarferol sy’n berthnasol i’r byd go iawn. Bydd prentisiaid yn ymarfer sgiliau mewn amgylchedd dosbarth ac yn gallu eu cymhwyso yn y gweithle, gan gydweithio â chydweithwyr profiadol a fydd yn arwain y prentis drwy bob cam o’r broses.

Cwricwlwm wedi’i Deilwra: Mae ein cwricwlwm cynhwysfawr wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion y sector datblygu meddalwedd. Bydd prentisiaid yn ymdrin â phynciau hanfodol fel modelu a dylunio cynnwys, datblygu cynnwys amlgyfrwng, creu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, optimeiddio cynnwys digidol, a rheoli prosiectau dylunio cynnwys o’r dechrau i’r diwedd.

Cynghorwyr Profiadol a Gwybodus: Drwy gydol y brentisiaeth, byddwn yn darparu mynediad at rwydwaith o gynghorwyr profiadol a fydd yn cynnig arweiniad, cefnogaeth ac adborth. Bydd prentisiaid yn dysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad ar draws y sector digidol.

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cymysgedd o unedau gorfodol. Ceir trosolwg byr o’r unedau hyn isod.

  • Egwyddorion Llywodraethu a Sicrwydd Gwybodaeth
  • Modelu a Dylunio Cynnwys Digidol
  • Rheoli Prosiect Datblygu Cynnwys Digidol
  • Datblygu Cynnwys Digidol Amlgyfrwng Rhyngweithiol
  • Creu Cymwysiadau sy’n Seiliedig ar Ddata
  • Datblygu Cynnwys Digidol ar gyfer Sianeli Cyfryngau Cymdeithasol
  • Optimeiddio Effeithiolrwydd Cyflwyno Cynnwys Digidol
  • Sefydlu Systemau Talu Diogel ar gyfer E-fasnach

A llawer mwy…

  • Hyd nodweddiadol o 24 mis.
  • Sesiwn sefydlu ar gyfer prentisiaid a’u rheolwyr llinell.
  • 15 gweithdy diwrnod llawn ar sgiliau a gwybodaeth dechnegol graidd.
  • Gweithdai ychwanegol i gefnogi dewisiadau unedau dewisol.
  • Cefnogaeth gan adnoddau hunan-astudio ar-lein.
  • Sesiynau hyfforddi a chymorth asesu un-i-un gan diwtor.
  • 4 diwrnod asesu sgiliau hanfodol (2 ddiwrnod paratoi a 2 ddiwrnod tasg fyw).
  • Profion cadarnhau sgiliau hanfodol dwy awr o hyd.

Nid yw gweithgareddau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol i brentisiaid sydd ag eithriadau.

  • Diploma Agored Cymru Lefel 4 mewn Dylunydd Cynnwys Digidol
  • Sgil Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhifau
  • Sgil Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu

Lawrlwytho amlinelliad llawn y cwrs

Lawrlwytho PDF

Diddordeb mewn cofrestru?

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut y gall ACT eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Cysylltwch

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 4

Lleoliad

Dysgu yn y gweithle

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

Wedi'i ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy