Ynglŷn â’r cwrs hwn
(Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres cymwysterau TAQA)
- Bydd dysgwyr yn deall cyd-destun ac egwyddorion sicrhau ansawdd mewnol ac yn gallu dangos sut mae penderfyniadau asesu yn cael eu samplu a sut mae aseswyr yn cael eu monitro.
- Darparu tystiolaeth o sut i gynllunio’r prosesau a defnyddio technegau ar gyfer monitro systemau.
- Deall sut i gynnal a gwella ansawdd.
- Deall gofynion cyfreithiol ac arferion da.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer ymgeiswyr sydd mewn rôl Sicrhau Ansawdd Mewnol neu sy’n dymuno symud ymlaen yn y sector sicrhau ansawdd. Mae’n cefnogi ymarferwyr sy’n cynnal gwaith sicrhau ansawdd mewnol ar y broses asesu o fewn canolfan neu sefydliad drwy gynllunio samplau, monitro ac ymgynghori ar arferion aseswyr.
Llunio a gweithredu cynlluniau samplu
Safoni tystiolaeth
Cynnal cyfweliadau â dysgwyr
Samplu gwaith dysgwyr
Sylwi ar berfformiad aseswyr a’i fonitro
Darparu tystiolaeth o’ch Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) eich hun
Rhagofyniad: Mae’n ofynnol i bob cyfranogwr ddilyn ac arsylwi ar IQA cymwys, gan ymdrin ag o leiaf dau aseswr, gyda dau ddysgwr o leiaf i bob un.
Mae Uned 401 yn uned sy’n seiliedig ar wybodaeth ac yn cael ei chyflwyno drwy un diwrnod o astudio annibynnol a thri gweithdy diwrnod llawn ar Teams.
Uned 402 – mae’n ofynnol i bob cyfranogwr lunio portffolio o dystiolaeth ymarferol drwy drafodaeth broffesiynol, datganiadau, ac arsylwi ar eu harferion IQA.
Bydd yr holl ofynion yn cael eu trafod, eu cynllunio a’u cytuno gyda’ch asesydd cyn y sesiwn gyntaf.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?