(Rhan o gyfres cymwysterau TAQA)
Cwrs sy’n canolbwyntio ar wybodaeth yn unig, ar gyfer y rhai sy’n ystyried dechrau eu taith fel aseswr, neu’r rhai sydd angen gwybodaeth am brosesau asesu ond nad ydynt yn cyflawni tasgau asesu.
Uned 301 – uned sy’n seiliedig ar wybodaeth ac yn archwilio dulliau ac egwyddorion asesu yn ogystal â gofynion llwybrau asesu, drwy gyfrwng prosiect neu dasg.
Cyflwyno: Mae Uned 1 yn seiliedig ar wybodaeth ac yn cael ei chyflwyno drwy ddwy sesiwn weithdy ar Teams, cwrs ar-lein a phodlediad adolygu.
Dyddiadau cychwyn parhaus (*dim ond dyddiad dros dro yw’r dyddiad a nodir isod) – cadarnheir y dyddiadau cychwyn gwirioneddol ar ôl archebu a chofrestru. Cynhelir gweithdai yn aml, gan eu bod yn rhedeg bob pythefnos.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?