(Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres cymwysterau TAQA)
Bydd dysgwyr yn gallu deall cyd-destun ac egwyddorion sicrhau ansawdd mewnol. Dangos sut i gynllunio’r prosesau a defnyddio technegau ar gyfer monitro systemau. Deall sut i gynnal a gwella ansawdd. Deall gofynion cyfreithiol ac arferion da. Mae’r cwrs hwn ar gyfer ymgeiswyr sydd mewn rôl Sicrhau Ansawdd Mewnol neu sy’n dymuno symud ymlaen yn y sector sicrhau ansawdd. Mae’n cefnogi ymarferwyr sy’n cynnal gwaith sicrhau ansawdd mewnol ar y broses asesu o fewn canolfan neu sefydliad drwy gynllunio samplu, monitro a chynghori ar arferion aseswyr.
Rhagofyniad: Rhaid i bob cyfranogwr gael mynediad at IQA cymwys sy’n gallu darparu cymorth a mentora.
Mae angen i gyfranogwyr gwblhau unedau 401 a 402 er mwyn dod yn IQA cymwys (gweler y cwrs Sicrhau Ansawdd Mewnol y Broses ac Arferion Asesu)
Cyflwyno: Mae uned 401 yn uned sy’n seiliedig ar wybodaeth ac yn cael ei chyflwyno drwy un sesiwn astudio annibynnol a 3 gweithdy diwrnod llawn ar Teams.
Mae angen i bob cyfranogwr gynhyrchu aseiniadau ysgrifenedig. Trafodir, cynllunir a chytunir ar yr holl ofynion gyda’ch asesydd cyn Sesiwn Un.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?