(Rhan o gyfres cymwysterau TAQA)
Bydd dysgwyr yn ennill dealltwriaeth sylfaenol o rolau a chyfrifoldebau hyfforddwr mewn perthynas â deddfwriaeth, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a diwallu anghenion dysgwyr. Byddant yn gallu trefnu dilyniant dysgu, a chynllunio a chyflwyno sesiynau, gan ddefnyddio adnoddau a dulliau addysgu priodol. Byddant hefyd yn gallu nodi nodweddion asesu ac adborth effeithiol. Caiff hyn ei brofi drwy aseiniad ac ymarfer micro-addysgu.
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn rôl ym maes addysgu neu hyfforddi, neu sy’n dechrau ar rôl o’r fath.
Cyflwyno: 3 gweithdy (2 ar Teams ac 1 wyneb yn wyneb) ac ymarfer micro-addysgu (wyneb yn wyneb)
Cynhelir y sesiwn wyneb yn wyneb yn ein Canolfan yng Nghaerdydd.
Cynhelir y cyrsiau dros gyfnod o bythefnos; mae mynychu pob sesiwn yn orfodol.
Mae’r cwrs hwn ar agor i bawb, waeth beth fo’u sgiliau neu eu profiad.
Mae angen i gyfranogwyr gymryd rhan ar MS Teams ac yn bersonol er mwyn casglu tystiolaeth, gan ddefnyddio portffolio digidol. Mae sgiliau digidol sylfaenol a mynediad at ddyfais ddigidol yn hanfodol; rydym yn argymell yn gryf ddefnyddio gliniadur, Chromebook, MacBook neu gyfrifiadur personol (PC).
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?