Ymwybyddiaeth o Reoli Gwrthdaro
Nod y cwrs undydd hwn yw codi ymwybyddiaeth o strategaethau posibl i’w hystyried wrth ddelio â gwrthdaro, a sut i atal sefyllfaoedd o’r fath rhag codi. Mae’n canolbwyntio ar y gallu i wrando’n weithredol ac ymateb i sefyllfaoedd lle mae risg o wrthdaro neu gynnen.
Dull cyflwyno: Sesiwn wyneb yn wyneb
Oriau dysgu: 1 diwrnod (7 awr o ddysgu)
Pynciau allweddol:
- Cyfathrebu effeithiol
- Gwrando’n weithredol
- Datrys problemau
Os ydych chi’n gyflogwr sydd am gofrestru nifer o aelodau staff ar y cwrs hwn, gallwn gynnig y cwrs ar y safle yn eich gweithle. (nodwch na fydd ACT/ALS yn talu unrhyw gostau ychwanegol a allai godi o hyn)
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at reolwyr ac arweinwyr timau mewn unrhyw broffesiwn.
Mae’r asesiad yn cynnwys arholiad aml-ddewis i’w gwblhau ar ddiwedd y cwrs deuddydd.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?