Mae’r cwrs hwn, sydd wedi’i achredu gan Highfield, yn darparu gwybodaeth hanfodol am y cyfrifoldebau o ran diogelu plant a phobl ifanc.
Bydd cyfranogwyr yn gwybod sut i ddiogelu plant, pobl ifanc ac ymarferwyr yn y gweithle, yn ogystal â sut i ymateb i dystiolaeth neu bryderon ynghylch cam-drin.
Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sy’n gweithio, yn gwirfoddoli neu’n chwilio am waith yn y sector gofal plant neu addysgu.
Dull Cyflwyno: Sesiwn wyneb yn wyneb
Oriau Dysgu: 1 diwrnod (7 awr o ddysgu)
Pynciau Allweddol:
- Sut i ddiogelu ac amddiffyn plant, pobl ifanc ac ymarferwyr yn y gweithle
- Sut i ymateb i dystiolaeth neu bryderon bod plentyn neu berson ifanc wedi cael ei gam-drin.
Os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cofrestru nifer o aelodau staff ar y cwrs hwn, gallwn ei gynnal ar y safle yn eich gweithle. (Sylwch na fydd ACT/ALS yn talu unrhyw gostau ychwanegol a allai godi o hyn)
Mae hyfforddiant diogelu wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phlant.
Caiff y cwrs hwn ei asesu drwy lyfr gwaith sy’n cael ei gwblhau trwy gydol y cwrs.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, byddwch yn ennill Gwobr Lefel 2 mewn Diogelu ac Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?