Math o gwrs

Cwrs Byr

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Caerdydd

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

£270 y person
Darganfyddwch mwy

Mae’r cwrs hwn, sydd wedi’i achredu gan Highfield, yn rhoi’r sgiliau i gyfranogwyr gynorthwyo i adnabod a rheoli salwch ac anafiadau yn y gweithle – gan gynnig gwybodaeth fwy manwl sy’n galluogi’r cyfranogwr i gynnal asesiad llawn a rhoi cymorth cyntaf ar gyfer ystod ehangach o anafiadau yn ogystal â salwch difrifol fel diabetes, asthma, strôc ac ati.

 

Dull Cyflwyno: Sesiwn wyneb yn wyneb

Oriau Dysgu: 3 diwrnod (18 awr o ddysgu)

Cost: £270 (gan gynnwys TAW)

Rhagofynion: Rhaid i gyfranogwyr allu penlinio ar y llawr a chwblhau nifer o gylchoedd o CPR gan ddefnyddio manacin.

 

Os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cofrestru nifer o aelodau o staff ar y cwrs hwn, gallwn gynnig y cwrs ar y safle yn eich gweithle. (Sylwch na fydd ACT/ALS yn talu unrhyw gostau ychwanegol a allai godi o hyn)

 

Argymhellir hyn ar gyfer ymatebwyr cymorth cyntaf sy’n gweithio mewn sefydliadau mwy ac/neu sefydliadau lle mae mwy o bosibilrwydd o ystod amrywiol o anafiadau o ddifrifoldeb amrywiol, oherwydd natur y gweithgareddau ar y safle (peiriannau trwm, adeiladu, ac ati).

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys asesiad aml-ddewis o 30 cwestiwn i’w gwblhau ar ddiwedd yr hyfforddiant, yn ogystal ag asesiadau ar ffurf arddangosiadau ymarferol drwy gydol pob diwrnod. Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, byddwch yn ennill Gwobr Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf yn y Gweithle.

Mae angen y cymhwyster hwn er mwyn gweithredu fel darparwr cymorth cyntaf yn y gweithle lle mae lefelau uwch o risg.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut y gall ACT eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Cysylltwch

Math o gwrs

Cwrs Byr

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Caerdydd

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

£270 y person
Darganfyddwch mwy