Math o gwrs

Cwrs Byr

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Caerdydd

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

£96 y person
Darganfyddwch mwy

Mae’r cwrs hwn, sydd wedi’i achredu gan Highfield, yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau cymorth cyntaf i gyfranogwyr er mwyn eu galluogi i weithio’n ddiogel ac yn effeithlon yn y gweithle; mae hyn yn cynnwys CPR, rheoli claf sy’n anymwybodol, cynorthwyo claf sy’n tagu, a rheoli clwyfau.

Dull Cyflwyno: Sesiwn wyneb yn wyneb

Oriau Dysgu: 1 diwrnod (7 awr o ddysgu)

Rhagofynion: Rhaid i gyfranogwyr allu penlinio ar y llawr a chwblhau nifer o gylchoedd o CPR gan ddefnyddio manacin.

 

Os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cofrestru nifer o aelodau o staff ar y cwrs hwn, gallwn ei gynnal ar y safle yn eich gweithle. (Sylwch na fydd ACT/ALS yn talu unrhyw gostau ychwanegol a allai godi o hyn)

 

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at gymhorthwyr cyntaf dynodedig yn y gweithle, a bydd yn addas ar gyfer amrywiaeth o anghenion gwahanol.

Mae’r broses asesu ar gyfer y cwrs hwn yn cynnwys prawf dewis lluosog o 15 cwestiwn i’w gwblhau ar ddiwedd yr hyfforddiant, yn ogystal ag asesiadau sy’n cynnwys dangosiadau ymarferol drwy gydol y dydd.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill Gwobr Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle. Mae’r cymhwyster hwn yn ofynnol er mwyn gallu gweithredu fel darparwr cymorth cyntaf yn y gweithle.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut y gall ACT eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Cysylltwch

Math o gwrs

Cwrs Byr

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Caerdydd

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

£96 y person
Darganfyddwch mwy