Mae’n darparu gwybodaeth hanfodol am y cyfrifoldebau sy’n ymwneud â diogelu oedolion sy’n agored i niwed. Bydd y cwrs yn rhoi gwybodaeth i gyfranogwyr ar sut i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed ac ymarferwyr yn y gweithle, yn ogystal â sut i ymateb i dystiolaeth neu bryderon ynghylch cam-drin. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio, yn gwirfoddoli neu’n chwilio am waith yn y sector gofal.
Dull Cyflwyno: Sesiwn wyneb yn wyneb
Oriau Dysgu: 1 diwrnod (7 awr o ddysgu)
Pynciau Allweddol:
- Sut i ddiogelu ac amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed ac ymarferwyr yn y gweithle
- Sut i ymateb i dystiolaeth neu bryderon bod person wedi cael ei gam-drin.
Os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cofrestru nifer o aelodau o staff ar y cwrs hwn, gallwn gynnig y cwrs ar y safle yn eich lle gwaith. (Sylwch na fydd ACT/ALS yn talu unrhyw gostau ychwanegol a allai godi o hyn)
Mae’r hyfforddiant diogelu hwn wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gydag oedolion agored i niwed.
Nid oes elfen asesu i’r cwrs hyfforddiant hwn.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?