Mae ACT bellach wedi uno â’i chwaer sefydliad, ALS, i ddod yn un sefydliad o dan frand ACT.



                                Bydd gwybodaeth ALS Aerofod yn parhau i fod ar gael ar wefan ALS.
                            

Math o gwrs

Cwrs Byr

Lefel

Lefel 2

Lleoliad

Caerdydd

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

£96 y person
Darganfyddwch mwy

Mae’r cwrs hwn, sydd wedi’i achredu gan Highfield, yn rhoi gwybodaeth i gyfranogwyr am y deddfau sy’n rheoleiddio sylweddau peryglus yn y gweithle, yn eu helpu i ddeall rôl asesu risg wrth sicrhau bod y sylweddau hyn yn cael eu trin yn ddiogel, ac yn eu dysgu am y rhagofalon a’r gweithdrefnau angenrheidiol i reoli risgiau cysylltiedig yn effeithiol.

 

Dull Cyflwyno: Sesiwn wyneb yn wyneb

Oriau Dysgu: 1 diwrnod (7 awr o ddysgu)

Pynciau Allweddol:

  • Asesu risg  
  • Dosbarthu, Labelu a Phecynnu 
  • Sylweddau peryglus yn y gweithle  

 

Os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cofrestru nifer o aelodau o staff, gallwn gynnig y cwrs hwn ar y safle yn eich gweithle. (Sylwch na fydd ACT/ALS yn talu unrhyw gostau ychwanegol a allai godi o hyn)

 

Gweithwyr sy’n gweithio gyda sylweddau peryglus, neu sy’n agored iddynt, fel rhan o’u gwaith – er enghraifft, trinwyr gwallt, therapyddion harddwch, gweithwyr cynnal a chadw, staff glanhau, a’r rhai sy’n gweithio ym meysydd adeiladu a gweithgynhyrchu.

Caiff y cwrs hwn ei asesu drwy arholiad aml-ddewis.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd cyfranogwyr yn ennill cymhwyster Lefel 2 mewn Rheoli Sylweddau sy’n Beryglus i Iechyd.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut y gall ACT eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Cysylltwch

Math o gwrs

Cwrs Byr

Lefel

Lefel 2

Lleoliad

Caerdydd

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

£96 y person
Darganfyddwch mwy