Nod y cwrs hwn, sydd wedi’i achredu gan Highfield, yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i gyfranogwyr i reoli a datrys gwrthdaro yn y gweithle yn effeithiol, gan feithrin amgylchedd gwaith mwy cytûn a chynhyrchiol.
Dull Cyflwyno: Sesiwn wyneb yn wyneb
Oriau Dysgu: 1 diwrnod
Pynciau allweddol:
- Deall gwrthdaro – diffiniadau, achosion, ac effaith bosibl ar unigolion a sefydliadau.
- Adnabod arwyddion rhybuddio cynnar – sut i nodi ymddygiadau sy’n dynodi gwrthdaro posibl.
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol – defnyddio gwrando gweithredol, holi, ac empathi i leihau difrifoldeb sefyllfaoedd.
- Rheoli gwrthdaro â chwsmeriaid – technegau ar gyfer delio ag ymddygiad heriol mewn rôl sy’n ymwneud â chwsmeriaid.
- Strategaethau lleihau tensiwn – cynnal rheolaeth, tawelu ymddygiad ymosodol, a chadw sefyllfaoedd yn ddigynnwrf.
- Modelau datrys gwrthdaro – dulliau strwythuredig o gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch personol – deall ffactorau risg a strategaethau i amddiffyn eich hun ac eraill.
- Ystyriaethau ar ôl digwyddiad – adrodd, myfyrio, a chefnogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt.
Os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cofrestru nifer o aelodau staff ar y cwrs hwn, gallwn ei gynnal ar y safle yn eich gweithle. (Sylwch na fydd ACT/ALS yn talu unrhyw gostau ychwanegol a allai godi o hynny)
Rheolwyr ac Arweinwyr Timau
Nid oes unrhyw ofynion asesu ar gyfer y cwrs hwn.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, byddwch yn ennill Gwobr Lefel 2 mewn Rheoli Gwrthdaro, sydd wedi’i hachredu gan Highfield.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?