Yn addas ar gyfer unrhyw sefydliad sy’n casglu gwybodaeth drwy gyfweliad, gan gynnwys at ddibenion prosesau ffurfiol, sifil, troseddol neu gyflogaeth. Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i ddatblygu dull strwythuredig o gynnal cyfweliadau. Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi proses i’r cyfwelydd er mwyn sicrhau’r cyfle gorau i gasglu gwybodaeth fanwl drwy gyfweliad, a sut i ddefnyddio cwestiynau priodol i annog atebion manwl.
Dull Cyflwyno: Sesiwn wyneb yn wyneb
Oriau Dysgu: 1 diwrnod (7 awr o ddysgu)
Pynciau allweddol:
- Paratoi ar gyfer cyfweliad
- Technegau holi
- Gwrando gweithredol ac arsylwi
Wedi’i anelu at:
- Rheolwyr a goruchwylwyr sy’n cynnal cyfweliadau staff neu gyfweliadau sy’n ymwneud â pherfformiad.
- Gweithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol a recriwtio.
- Swyddogion diogelu a lles.
- Ymchwilwyr yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.
- Swyddogion cydymffurfio a gorfodi.
- Staff diogelwch ac ymchwilio.
- Unrhyw un sydd angen casglu gwybodaeth yn effeithiol drwy holi strwythuredig.
Os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cofrestru nifer o aelodau o staff ar y cwrs hwn, gallwn ei gynnal ar y safle yn eich gweithle. (Sylwch na fydd ACT/ALS yn talu unrhyw gostau ychwanegol a allai godi o hynny)
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unrhyw sefydliad neu unigolyn sy’n casglu gwybodaeth drwy gyfrwng cyfweliad. At ddibenion mewnol neu allanol, gan gynnwys unrhyw bosibilrwydd o achos sifil neu droseddol, neu broses ddisgyblu neu gyflogaeth.
Nid oes asesiad ffurfiol ar gyfer y cyrsiau hyfforddi hyn.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?