16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Dywed Angelina Mitchell sy’n gwneud gwaith arloesol fel swyddog sicrhau ansawdd mewnol digidol, mai ei nod yw agor y drws i ddysgwyr feithrin y sgiliau i ddefnyddio technoleg yn hyderus.

Gweithio i’r darparwr hyfforddiant ACT yng Nghaerdydd mae Angelina, 28, a bu’n arloesi gyda’r gwaith o gyflwyno’r Fframwaith Prentisiaethau Dylunio Dysgu Digidol yng Nghymru.

Eglurodd Lucy Wilkinson, rheolwr llwybr gwasanaethau digidol ACT: “Bu’n rhaid i Angelina lywio’r gwaith o gyflwyno’r cymhwyster hwn ar ei phen ei hun oherwydd, ar y pryd, hi oedd unig asesydd y cymhwyster yng Nghymru. Mae ei brwdfrydedd a’i hymroddiad i’w datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y diwydiannau digidol yn eithriadol.””

Neithiwr, cafodd Angelina ei henwi’n Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Ar ôl bod yn dysgu ieithoedd tramor modern i ddisgyblion ysgol uwchradd, ymunodd Angelina ag ACT fel asesydd dan hyfforddiant yn 2018 gan ei bod yn chwilio am her newydd yn ei gyrfa a’i bod yn awyddus i helpu eraill i ddefnyddio’r dechnoleg ddigidol.

Er mwyn sicrhau ei bod yn deall taith ei dysgwyr yn iawn, mae hithau wedi dilyn y prentisiaethau y mae’n eu cyflenwi ac mae wedi dysgu Cymraeg er mwyn iddi allu gweithio’n ddwyieithog.

Mae Angelina, sy’n byw yng Nghaerdydd ac yn dod yn wreiddiol o’r Iseldiroedd, wedi dysgu’r iaith mor dda nes iddi ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn ‘Cymraeg Gwaith’ (canolradd) gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’n rhugl mewn pum iaith.

Mae dysgwyr a chyflogwyr wrth eu bodd â hi a hi sy’n cael y canlyniadau gorau yn ei thîm – mae 90% o’i dysgwyr yn cwblhau eu cymhwyster ac mae’n cael sgôr ymgysylltu â chyflogwyr o 88%.

Mae hi hefyd yn cefnogi ac yn goruchwylio dysgwyr ar y llwybr gwasanaethau digidol yn ACT ac mae’n gwella’i sgiliau’n barhaus er mwyn cadw i fyny â thechnoleg a chymwysterau.

Cyn y pandemig, roedd hi eisoes wedi addasu i ddysgu o bell ac wedi cyflwyno trafodaethau 20 munud ar bwnc penodol er mwyn i’w dysgwyr ddysgu’r wybodaeth ar gyfer eu prentisiaeth. Mae ei chydweithwyr wedi mabwysiadu’r dull asesu hwn fel arfer gorau.

Ymhlith ei chymwysterau mae gradd Baglor mewn Addysg yn arbenigo mewn dysgu Ffrangeg, cymhwyster atodol mewn Dylunio Amlgyfrwng, Prentisiaethau yn y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, Asesu Hyfforddiant a Sicrwydd Ansawdd Mewnol.

Mae Angelina’n arwain trwy esiampl. Mae wedi cael ei haddysg yn rhyngwladol, sy’n golygu bod ganddi brofiad o arferion gorau rhai o’r gwledydd â systemau addysg gorau’r byd. Mae Angelina yn mynd yr ail filltir i rannu ei gwybodaeth a’i sgiliau gyda chydweithwyr a dysgwyr fel ei gilydd.

Wrth gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Angelina: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith, gan ei fod yn golygu llawer i mi. Mae’n dangos bod eraill yn teimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth mewn sefydliadau ac ysgolion yng Nghymru.

Rwy’n gweithio’n galed iawn ac yn gobeithio bod y pethau rydw i wedi’u dysgu yn y brifysgol ac yn y gwaith o fudd i diwtoriaid, athrawon a datblygwyr cwricwla.

Cafodd Angelina a phawb arall ar y rhestrau byrion eu llongyfarch gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi. “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig,” meddai.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.