Os ydych am ddechrau ar eich gyrfa neu roi hwb i’ch gyrfa bresennol, byddai Prentisiaeth yn le gwych i ddechrau.
Mae Prentisiaeth yn rhaglen dysgu’n seiliedig ar waith sy’n eich helpu i ddatblygu sgiliau proffesiynol ac ennill cymhwyster lefel 2-5 sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, tra’n ennill cyflog – gan ei wneud yn ddewis gyrfa gwych i unrhyw berson ifanc.
- I ennill cyflog
- Cael gwyliau â thâl
- Derbyn hyfforddiant
- Cael cefnogaeth un-i-un gan ein Haseswyr arbenigol
- Ennill cymwysterau
- Dysgu sgiliau penodol i’r swydd
- Ennill sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau
- Llwybrau dilyniant ardderchog
Ein Prentisiaethau
Heblaw am y ffaith mai ni yw prif ddarparwr hyfforddiant Cymru ac yn cynnig yr ystod ehangaf o gymwysterau dysgu seiliedig ar waith, y prif reswm pam mae pobl yn dewis ACT yw oherwydd ein bod ni’n wych yn yr hyn a wnawn. Wedi’n sefydlu ym 1988, mae gennym ni lwyth o brofiad o ddarparu hyfforddiant i ystod o wahanol bobl o bob cefndir.
Fel rhan o’n Prentisiaethau, rydym yn falch o gynnig Gwarant y Person Ifanc. Ymrwymiad y byddai pawb o dan 25 oed yn cael cynnig cefnogaeth i ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig. Dysgwch fwy yma.
Mae ACT wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn gwasanaethau cyson o safon uchel ar draws y bwrdd, drwy gydol eu taith ddysgu. Peidiwch â chymryd ein gair ni amdano yn unig, edrychwch ar ganlyniadau ein Harolwg Llais Learney diweddaraf…
Dywedodd
Dywedodd
Dywedodd
Eisiau dod yn Brentis?
Yn ACT rydym wedi ymrwymo i gynnig y cyfleoedd Prentisiaeth gorau i chi yng Nghymru. Rydym yn cynnig ystod eang o Brentisiaethau o ansawdd uchel gyda chyflogwyr blaenllaw sy’n aros i gwrdd ag ymgeiswyr ifanc angerddol fel chi.
Cymerwch olwg ar ein Cyfleoedd Prentisiaeth cyfredol
Oes gennych chi swydd yn barod?
Newyddion gwych, gallwn weithio gyda chi a’ch cyflogwr i ddarparu Prentisiaeth sy’n berthnasol i’ch swydd a’ch lefel.
Cymerwch olwg ar ein hamrywiaeth o gymwysterau
Diddordeb? Cysylltwch gyda ni!
Os ydych chi’n barod i wneud cais neu eisiau canfod rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni Prentisiaethau, cysylltwch gyda’r tîm heddiw.