16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 2

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn

Mae ein Prentisiaeth Diploma Gwasanaethau Cwsmeriaid Sylfaen ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio neu sydd am weithio yn y sector gwasanaethau cwsmer a sectorau cysylltiedig eraill e.e. canolfan gyswllt a swyddi gwerthiant.

Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr sy’n newydd i’r rôl ac sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau. Byddai ymgeisydd nodweddiadol yn aelod o dîm sy’n gweithio mewn rôl gwasanaethau cwsmer.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sydd fwyaf addas i’ch rôl, a’ch busnes).

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:

  • Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmer
  • Gweithredwr Gwasanaeth Cwsmer
  • Ymgynghorydd Canolfan Alwadau
  • Gweithredwr Desg Gymorth
  • Unrhyw un sy’n delio â chwsmeriaid mewnol neu allanol yn rheolaidd

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru · ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 2

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy