Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno egwyddorion rheoli gwybodaeth, data a gwybodaeth (knowledge), gan roi’r sgiliau i fyfyrwyr ddylunio, rheoli a dadansoddi data yn effeithiol.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu gyda Hanfodion Blockchain:
Archwiliwch dechnolegau cronfeydd data perthynasol, an-berthynasol a chenhedlaeth nesaf, a chael profiad ymarferol o’r offer, y methodolegau a’r technegau sy’n sail i reoli data modern. Erbyn diwedd y modiwl, byddwch yn gallu gwerthuso strategaethau data, gwneud y gorau o lifoedd gwaith gwybodaeth, a chefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus mewn sefydliadau ar draws amrywiol ddiwydiannau.
Byddwch yn archwilio:
- Damcaniaeth rheoli gwybodaeth, data a gwybodaeth (knowledge)
- Cymharu systemau cronfeydd data cyffredin
- Asesu a gweithredu gwahanol fathau o fodelau data
Pwy fyddai'n elwa ar y cwrs hwn:
Gweithwyr proffesiynol sy'n newydd i TG
Peirianwyr Data arfaethedig
Timau a gweithwyr sy'n awyddus i wella eu sgiliau neu ddysgu sgiliau newydd
Cyflwyno’r Cwrs
Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, gan ddefnyddio sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb, gweithdai ac astudio annibynnol dan arweiniad. Bydd y cwrs yn cynnwys 36 awr o ddysgu wyneb yn wyneb a 140 awr o astudio annibynnol dros gyfnod o 12 wythnos. Cynhelir y cyrsiau unwaith yr wythnos rhwng 6pm a 9pm.
Bydd gan ddysgwyr y cyfle i ddewis rhwng y modiwl Rheoli Data a Gwybodaeth neu’r modiwl Hanfodion Blockchain.
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu:
- Trafod, dadansoddi a chymhwyso technegau ar gyfer rheoli gwybodaeth, data a gwybodaeth (knowledge).
- Dadansoddi ac egluro goblygiadau arloesedd technolegol o ran defnyddio data, diogelwch data a rheoli data.
- Cymhwyso cysyniad sylfaenol y broses normaleiddio a llunio system rheoli cronfa ddata.
- Myfyrio ar gyfyngiadau systemau a thechnolegau rheoli gwybodaeth mewn cyd-destun cymdeithasol-dechnegol a sefydliadol.
- Asesu a gweithredu gwahanol fathau o bensaernïaeth data a chronfeydd data i ddatrys senario sefydliadol penodol.
- Damcaniaeth rheoli gwybodaeth, data a gwybodaeth (knowledge).
- Modelu cronfeydd data: model endid-perthynas a’r model perthynasol.
- Iaith Ymholiadau Strwythuredig (SQL).
- Cymharu systemau cronfeydd data cyffredin.
- Materion cyd-redeg a pherfformiad mewn cronfeydd data, rheoli trafodion.
- Ansawdd data/Casglu data, Swyddogaethau delweddu, Uniondeb graffigol, Cymhareb data-inc, Tablau a graffiau, Setiau data lluosog, Graffiau rhyngweithiol.
- Deall busnes, Deall data, Diogelu data, Modelu, gwerthuso.
- Meddalwedd ystadegol, Rhaglennu data, Cronfeydd data ac ieithoedd, Offer Deallusrwydd Busnes.
- Data mawr ac analytics.
- Data an-berthynasol a data lled-strwythuredig, NoSQL.
Lawrlwythwch yr amserlen ddosbarthu lawn
Lawrlwytho PDFYn awyddus i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol