16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 2

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn

Nod ein Prentisiaeth Cyfleusterau mewn Gofal Iechyd yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw cost effeithiol o ansawdd mewn ysbytai, cymunedau a lleoliadau cartref.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer ymgeiswyr sy’n darparu gwasanaethau cynnal a chadw i ysbytai, cymunedau a lleoliadau cartref gan sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn bodloni safonau ansawdd.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

  • Trafod â llaw
  • Cyfathrebu a gwasanaeth cwsmer
  • Urddas yn y gwaith
  • Cyflwyniad i reoli gwastraff
  • Cyflwyniad i ymddygiad proffesiynol

 

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

Mae’r rhaglen hon yn paratoi dysgwyr ar gyfer rolau megis:

 

  • Diogelu’r safle
  • Helpu gyda glanhau
  • Gweithdrefnau argyfwng a gwacáu’r safle
  • Gwneud mân atgyweiriadau
  • Gwaith porthor

Cadw cofnodion

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 2

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy