16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn: 

Bydd ein Prentisiaeth GChDDP lefel 3 yn helpu i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd galwedigaethol dysgwyr mewn lleoliadau Gofal Plant. 

Nod y Brentisiaeth hon yw asesu a datblygu gwybodaeth a sgiliau’r dysgwr o weithio gyda phlant mewn lleoliadau sy’n canolbwyntio ar ofal, dysgu a datblygiad. 

This course is suitable for 

Mae’r Brentisiaeth hon yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n gweithredu’n fwy annibynnol, gan ymgymryd â chynllunio’r cwricwlwm, cynllunio gweithgareddau a rhai agweddau ar oruchwylio staff. 

Er enghraifft, y rhai sy’n gweithio mewn: 

  • Meithrinfeydd 
  • Lleoliadau gofal dydd 
  • Crèches 
  • Gwasanaethau plant y GIG 
  • Gwarchodwyr plant 

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes). 

Mae’r unedau gorfodol yn cynnwys: 

  • Hyrwyddo ymarfer craidd mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant 
  • Hyrwyddo chwarae, dysgu, twf a datblygiad 
  • Hyrwyddo maeth a hydradiad yn y blynyddoedd cynnar 
  • Ymateb i salwch plentyndod, plâu/heintiau, clefydau ac imiwneiddiad

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun. 

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell. 

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau. 

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster. Gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen i’r Brentisiaeth Ymarfer Broffesiynol GChDDP Lefel 4 

Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys: 

  • Ymarferydd Meithrin 
  • Ymarferydd Grŵp Chwarae 
  • Gweithiwr Cymorth Plant y GIG

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod: 

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf) 
  • yn byw yng Nghymru 
  • ddim mewn addysg llawn amser 
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru 
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd: 

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr 
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster 
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd 
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster 
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru 

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy