16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 5

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae ein Prentisiaeth Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac arddangos eu dealltwriaeth, ymddygiad, sgiliau ac ymarfer mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Bydd cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i wneud cais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel Rheolwr Cofrestredig ar yr amod eu bod hefyd yn bodloni’r holl ofynion cofrestru eraill.

Mae’r Brentisiaeth hon ar gyfer pobl sydd mewn rôl arwain neu reoli yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer y dysgwyr.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

Mae’r unedau gorfodol yn cynnwys:

  • Arwain a rheoli ymarfer person-ganolog
  • Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
  • Arwain a rheoli ansawdd y ddarpariaeth gwasanaethau er mwyn bodloni gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a sefydliadol
  • Ymarfer proffesiynol
  • Arwain a rheoli arferion sy’n hyrwyddo diogelu unigolion
  • Arwain a rheoli iechyd, diogelwch a diogelwch yn y lleoliad gwaith

 

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

 

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster .

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 5

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr