16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae ein Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Gofal Iechyd yn sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau a’r wybodaeth i reoli gwasanaethau clinigol ac anghlinigol ar draws y GIG.

Bydd y cwrs yn eich cefnogi i ymgymryd â’ch cyfrifoldebau mewn lleoliad clinigol mewn modd proffesiynol a chymwys. Bydd yn eich galluogi i gefnogi rheolaeth esmwyth yr amgylchedd clinigol.

Dysgwyr sy’n rheoli tîm mewn amgylchedd clinigol neu anghlinigol yn y GIG, ac sy’n ymgymryd â chyfrifoldeb rheolaethol dros reoli staff a’r amgylchedd gwaith.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

Unedau Gorfodol

  • Darparu hyfforddiant drwy arddangos neu gyfarwyddo.
  • Egwyddorion gweithio ym maes gofal iechyd.
  • Goruchwylio staff mewn sefydliadau gofal iechyd.
  • Rheoli cofnodion adnoddau dynol mewn sefydliad gofal iechyd.
  • Deall darpariaeth yr iaith Gymraeg mewn cyfleusterau gofal iechyd.
  • Rheoli perfformiad unigolion mewn lleoliad gofal iechyd.

Unedau Dewisol

  • Rheoli cyfleuster swyddfa.
  • Rheoli cyllideb.
  • Gweithredu newid.
  • Rheoli gwrthdaro mewn tîm.
  • Cynnal safonau ansawdd yn y sector iechyd.
  • Rheoli cyfarfodydd.
  • Gwella gwasanaeth yn y sector iechyd.
  • Rheoli adnoddau mewn sefydliad gofal iechyd.

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, mae’n bosib y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, dyrennir aseswr i ddysgwyr hefyd., bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn ei weithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) bob mis, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys:

  • Arweinwyr tîm
  • Rheolwyr

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy