16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn

Mae ein Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Gofal Iechyd yn sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau a’r wybodaeth i reoli gwasanaethau clinigol ac anghlinigol ledled y GIG.

Bydd y cwrs yn eich cefnogi i ymgymryd â’ch cyfrifoldebau o fewn lleoliad clinigol yn broffesiynol ac yn gymwys. Bydd yn eich galluogi i gefnogi rhedeg yr amgylchedd clinigol yn esmwyth.

Dysgwyr sy’n rheoli tîm o fewn amgylchedd clinigol neu anghlinigol o fewn y GIG, ac yn ymgymryd â chyfrifoldeb rheoli gyda rheoli staff a’r amgylchedd gwaith.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

Unedau Gorfodol

  • Darparu hyfforddiant drwy arddangosiadau neu gyfarwyddyd.
  • Egwyddorion gweithio mewn gwasanaeth gofal iechyd.
  • Goruchwylio staff mewn sefydliadau gofal iechyd.
  • Rheoli cofnodion adnoddau dynol mewn sefydliad gofal iechyd.
  • Deall darpariaeth iaith Gymraeg mewn cyfleusterau gofal iechyd.
  • Rheoli perfformiad unigolion mewn lleoliad gofal iechyd.

Unedau Dewisol

  • Rheoli cyfleuster swyddfa.
  • Rheoli cyllideb.
  • Gweithredu newid.
  • Rheoli gwrthdaro o fewn tîm.
  • Cynnal safonau ansawdd yn y sector iechyd.
  • Rheoli cyfarfod.
  • Gwella gwasanaethau yn y sector iechyd.
  • Rheoli adnoddau mewn sefydliad gofal iechyd.

Pan fyddwch chi’n cytuno i ymgymryd â Prentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych chi’n ei chwblhau a’ch anghenion penodol eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell.

Ar ôl cofrestru, bydd asesydd hefyd yn cael ei neilltuo i ddysgwyr. Drwy gydol y cymhwyster, bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, drwy Microsoft Teams) bob mis, i gefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:

  • Arweinwyr tîm
  • Rheolwyr

I ddechrau Prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg amser llawn
  • ddim yn cael mynediad at unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru

Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi Prentisiaeth yma

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd fod:

  • wedi’ch cyflogi am o leiaf 16 awr
  • wedi’ch cefnogi gan eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • wedi ymrwymo i ymgymryd â chyfartaledd o 4-6 awr o astudio am fis
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • wedi’ch cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy