16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn

Mae Therapyddion Gofal Iechyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau i gefnogi unigolion i ennill gwybodaeth, sgiliau a phrofiad personol yn eu maes dewisol o fewn y sector therapïau.

Ar gyfer y cymhwyster hwn gall y llwybr fod yn un o’r canlynol:

  • Diploma Lefel 3 mewn cefnogaeth Therapi Galwedigaethol yng Nghymru
  • Diploma Lefel 3 mewn Cefnogaeth Ffisiotherapi yng Nghymru
  • Diploma Lefel 3 mewn Cefnogaeth Podiatreg mewn Cynorthwywyr a Thechnegwyr Podiatreg

Mae’r rhaglen hon ar gyfer pobl sy’n gweithio naill ai mewn amgylchedd GIG, neu glinig preifat. Yn benodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn rolau sy’n cefnogi Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi, Adsefydlu neu Bodiatreg.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell.

Ar ôl cofrestru, bydd asesydd hefyd yn cael ei neilltuo i ddysgwyr. Drwy gydol y cymhwyster, bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, drwy Microsoft Teams) bob mis, i gefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen i’n Lefel 3 mewn Therapïau Gofal Iechyd. Cefnogir ac anogir dysgwyr drwy gydol eu cymhwyster i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol.

Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:

  • Cymorth Galwedigaethol
  • Cymorth Ffisiotherapi
  • Cymorth Cymorth Podiatreg

I ddechrau Prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg amser llawn
  • ddim yn cael mynediad at unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru

Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi Prentisiaeth yma

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd fod:

  • wedi’ch cyflogi am o leiaf 16 awr
  • wedi’ch cefnogi gan eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • wedi ymrwymo i ymgymryd â chyfartaledd o 4-6 awr o astudio am fis
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • wedi’ch cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy