Mae ACT bellach wedi uno â’i chwaer sefydliad, ALS, i ddod yn un sefydliad o dan frand ACT.



                                Bydd gwybodaeth ALS Aerofod yn parhau i fod ar gael ar wefan ALS.
                            

Math o gwrs

TAQA

Lefel

Lefel 4

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

£660 y person
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn

(Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres cymwysterau TAQA)

  • Bydd dysgwyr yn deall cyd-destun ac egwyddorion sicrhau ansawdd mewnol ac yn gallu dangos sut mae penderfyniadau asesu yn cael eu samplu a sut mae aseswyr yn cael eu monitro.
  • Darparu tystiolaeth o sut i gynllunio’r prosesau a defnyddio technegau ar gyfer monitro systemau.
  • Deall sut i gynnal a gwella ansawdd.
  • Deall gofynion cyfreithiol ac arferion da.

 

Mae’r cwrs hwn ar gyfer ymgeiswyr sydd mewn rôl Sicrhau Ansawdd Mewnol neu sy’n dymuno symud ymlaen yn y sector sicrhau ansawdd. Mae’n cefnogi ymarferwyr sy’n cynnal gwaith sicrhau ansawdd mewnol ar y broses asesu o fewn canolfan neu sefydliad drwy gynllunio samplau, monitro ac ymgynghori ar arferion aseswyr.

Llunio a gweithredu cynlluniau samplu

Safoni tystiolaeth

Cynnal cyfweliadau â dysgwyr

Samplu gwaith dysgwyr

Sylwi ar berfformiad aseswyr a’i fonitro

Darparu tystiolaeth o’ch Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) eich hun

Rhagofyniad: Mae’n ofynnol i bob cyfranogwr ddilyn ac arsylwi ar IQA cymwys, gan ymdrin ag o leiaf dau aseswr, gyda dau ddysgwr o leiaf i bob un.

Mae Uned 401 yn uned sy’n seiliedig ar wybodaeth ac yn cael ei chyflwyno drwy un diwrnod o astudio annibynnol a thri gweithdy diwrnod llawn ar Teams.

Uned 402 – mae’n ofynnol i bob cyfranogwr lunio portffolio o dystiolaeth ymarferol drwy drafodaeth broffesiynol, datganiadau, ac arsylwi ar eu harferion IQA.

Bydd yr holl ofynion yn cael eu trafod, eu cynllunio a’u cytuno gyda’ch asesydd cyn y sesiwn gyntaf.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut y gall ACT eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Cysylltwch

Math o gwrs

TAQA

Lefel

Lefel 4

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

£660 y person
Darganfyddwch mwy