This training will help you identify the signs and indicators of abuse and what to do if you suspect someone becoming involved or vulnerable to exploitation including gang activities. Participants will learn how to identify the signs of exploitation in Children and Adults. Those attending the training will be able recognise and act on discovering potential causes of vulnerability. They will learn how to access the victim pathway and key support processes for potential victims.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn eich helpu i nodi arwyddion ac arwyddocâd cam-drin, a beth i’w wneud os ydych yn amau bod rhywun yn dechrau cymryd rhan mewn gweithgareddau gangiau neu’n agored i niwed ac ecsbloetio. Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i nodi arwyddion ecsbloetio ymhlith plant ac oedolion. Bydd y rhai sy’n mynychu’r hyfforddiant yn gallu adnabod achosion posibl o fod yn agored i niwed a gweithredu ar eu hôl. Byddant yn dysgu sut i gael mynediad at y llwybr ar gyfer dioddefwyr a’r prosesau cymorth allweddol ar gyfer dioddefwyr posibl.
Dull Cyflwyno: Sesiwn wyneb yn wyneb
Oriau Dysgu: 1 diwrnod (7 awr o ddysgu)
Pynciau allweddol:
- Arwyddion ac arwyddocâd cam-drin
- Beth i’w wneud os ydych yn amau bod rhywun yn agored i niwed ac ecsbloetio
- Nodi arwyddion ecsbloetio ymhlith plant ac Oedolion
- Darganfod achosion posibl o fregusrwydd
- Cael mynediad at y llwybr ar gyfer dioddefwyr
- Prosesau cymorth allweddol ar gyfer dioddefwyr posibl
Wedi’i anelu at:
- Athrawon, cynorthwywyr addysgu, a staff addysg.
- Gweithwyr ieuenctid a staff cymorth cymunedol.
- Gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol ym maes diogelu.
- Gweithwyr gofal iechyd ac iechyd meddwl.
- Swyddogion heddlu, diogelwch a gorfodi.
- Gweithwyr yn y sector gwirfoddol sy’n cefnogi grwpiau bregus.
- Unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion bregus.
Os ydych chi’n gyflogwr sydd am gofrestru nifer o aelodau staff ar y cwrs hwn, gallwn ei gynnal ar y safle yn eich gweithle. (Sylwch na fydd ACT/ALS yn talu unrhyw gostau ychwanegol a allai godi o hynny)
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unrhyw un sy’n dod i gysylltiad â phlant yn rheolaidd, gan gynnwys rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Nid oes elfen asesu i’r cymhwyster hwn.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?