16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae ein Prentisiaeth Dysgu a Datblygiad Lefel 3 yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i hyfforddi eraill yn y gweithle ac i gefnogi datblygiad gweithwyr.

Mae’n canolbwyntio ar gynllunio, cyflwyno a gwerthuso dulliau ac adnoddau hyfforddi ac yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau a fydd yn arwain at ddysgu arloesol a diddorol ar gyfer unigolion a grwpiau.

Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr sy’n hyfforddi ac yn cefnogi eraill yn eu gweithle ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth fel y gallant ddarparu dysgu a datblygiad o ansawdd uchel.

Bydd gan ymgeisydd nodweddiadol gyfrifoldeb dros ddatblygu unigolion a/neu grwpiau yn y gweithle. Gall hyn fod fel hyfforddwr, mentor neu oruchwyliwr.

Gall yr unigolyn fod yn gweithio fel rhan o dîm cyflwyno neu’n trefnu dysgu mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae’r cymhwyster yn gynhwysol ac felly’n addas ar gyfer ystod eang o gyd-destunau gwaith.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

Unedau Gorfodol

  • Deall egwyddorion ac arferion dysgu a datblygiad.
  • Myfyrio ar eich ymarfer eich hun a’i wella mewn Dysgu a Datblygiad.
  • Hwyluso Dysgu a Datblygiad mewn Grwpiau neu
  • Hwyluso Dysgu a Datblygiad ar gyfer unigolion.

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth mae’n bosib y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, dyrennir aseswr i ddysgwyr hefyd. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn ei weithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) bob mis, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog drwy gydol eu cymhwyster i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol.

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:

  • Cynghorydd / Ymgynghorydd Dysgu a Datblygiad
  • Swyddog datblygu hyfforddiant
  • Goruchwyliwr canolfan ddysgu
  • Mentor
  • Hyfforddwr unigolion neu grwpiau
  • Rheolwr neu oruchwyliwr
  • Asesydd a Gwiriwr

 

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy