Mae pob cyflogwr yn rhwym yn gyfreithiol i sicrhau bod eu gweithle yn ddiogel a bod y tîm yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o reoliadau diogelwch rhag tân. Mae’r cwrs hwn, sydd wedi’i achredu gan Highfield, yn rhoi gwybodaeth am ddiogelwch rhag tân i gyfranogwyr. Bydd dysgwyr sy’n ennill y cymhwyster hwn yn deall bod diogelwch rhag tân yn gyfrifoldeb i bawb.
Dull Cyflwyno: Sesiwn wyneb yn wyneb
Oriau Dysgu: 1 diwrnod (7 awr o ddysgu)
Pynciau Allweddol:
- Peryglon a risgiau
- Rheoli risg tân
- Egwyddorion ac arferion rheoli diogelwch rhag tân
- Rôl y Warden Tân
Os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cofrestru nifer o aelodau staff ar y cwrs hwn, gallwn gynnig y cwrs hwn ar y safle yn eich gweithle. (nodwch na fydd ACT/ALS yn talu unrhyw gostau ychwanegol a allai godi o hyn)
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at bob gweithiwr. Fe’i bwriedir ar gyfer dysgwyr sydd eisoes yn y gweithle a’r rhai sy’n paratoi i ddechrau gweithio neu ddychwelyd i’r gwaith.
Asesir y cwrs hwn drwy arholiad aml-ddewis.
Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn ennill Gwobr Lefel 1 mewn Egwyddorion Diogelwch Tân.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?