Mae’r cwrs hwn, sydd wedi’i achredu gan Highfield, yn cyflwyno cyfranogwyr i weithgareddau symud a thrin. Mae’n addas ar gyfer unrhyw un sy’n dechrau gweithio, yn dychwelyd i’r gwaith, neu sydd angen hyfforddiant penodol ar drin llwythi â llaw fel rhan o’u rôl bresennol neu un sydd ar ddod. Gellir ei ddefnyddio hefyd fel hyfforddiant adnewyddu ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn amgylchedd sy’n golygu trin nwyddau â llaw. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd cyfranogwyr yn deall ac yn dangos pwysigrwydd arferion trin a chodi â llaw yn y gweithle.
Oriau Dysgu: 1 diwrnod (6 awr o ddysgu)
Pynciau Allweddol:
- Asgwrn cefn iach
- Symudiadau risg uchel
- Symudiadau diogel
Os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cofrestru nifer o aelodau staff ar y cwrs hwn, gallwn ei gynnal ar y safle yn eich gweithle. (Sylwch na fydd ACT/ALS yn talu unrhyw gostau ychwanegol a allai godi o hynny)
Yn addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, mewn rôl sy’n cynnwys trin llwythi â llaw. Mae’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau, gan gynnwys warysau a siopau.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys prawf aml-ddewis o 15 cwestiwn ar ddiwedd y sesiwn ac arddangosiad ymarferol o godi a symud yn ddiogel.
Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn ennill cymhwyster Lefel 2 mewn Symud a Thrin yn Ddiogel yn y Gweithle.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?