(Rhan o gyfres cymwysterau TAQA)
Mae’r cwrs hwn ar gyfer ymarferwyr sy’n asesu gwybodaeth a/neu sgiliau mewn amgylcheddau sy’n ymwneud â galwedigaethau ac mewn amgylcheddau gwaith go iawn.
Rhaid i gyfranogwyr gael mynediad at ddau ddysgwr mewn amgylchedd dysgu yn y gweithle, ac o leiaf tri dysgwr mewn amgylchedd galwedigaethol, er mwyn cwblhau’r unedau.
Uned 301 – uned sy’n seiliedig ar wybodaeth ac yn archwilio dulliau ac egwyddorion asesu yn ogystal â gofynion llwybrau asesu, drwy brosiect/aseiniad.
Uned 302 – asesu sgiliau a gwybodaeth yn y gweithle, drwy arsylwi a chynhyrchion gwaith.
Uned 303 – asesu sgiliau a gwybodaeth alwedigaethol, drwy arsylwi a chynhyrchion gwaith.
Cyflwyno: Mae Uned 1 yn seiliedig ar wybodaeth ac yn cael ei chyflwyno drwy ddwy sesiwn weithdy Teams, cwrs ar-lein a phodlediad adolygu.
Dyddiadau cychwyn parhaus (*dim ond dyddiad dros dro yw’r dyddiad a nodir isod) – bydd y dyddiadau cychwyn gwirioneddol yn cael eu cadarnhau ar ôl archebu ac ymrestru.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?