Mae ACT bellach wedi uno â’i chwaer sefydliad, ALS, i ddod yn un sefydliad o dan frand ACT.



                                Bydd gwybodaeth ALS Aerofod yn parhau i fod ar gael ar wefan ALS.
                            

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Dysgu yn y gweithle

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

Wedi'i ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn

Mae Prentisiaeth Dadansoddwr Seiberddiogelwch Lefel 3 wedi’i llunio ar y cyd â chyflogwyr yng Nghymru i roi’r prif sgiliau seiberddiogelwch sydd eu hangen ar weithwyr i allu helpu i nodi a rheoli risgiau seiberddiogelwch, gan gynorthwyo i ddiogelu cyfanrwydd asedau seiber. Nod y rhaglen brentisiaeth hon yw darparu llwybr galwedigaethol cadarn i ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i lwyddo fel dadansoddwr seiberddiogelwch.

 

I bwy mae’r brentisiaeth?

  • Wedi’i llunio ar gyfer unigolion sy’n anelu at ddatblygu eu gyrfa ym maes heriol seiberddiogelwch.
  • Yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am wella eu sgiliau ar gyfer rôl seiberddiogelwch sy’n cynnwys mwy o gyfrifoldeb.
  • Yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes seiberddiogelwch sydd am gadarnhau eu harbenigedd gyda chymhwyster achrededig.

Cyflymu twf eich gyrfa: Bydd y brentisiaeth Dadansoddwr Seiberddiogelwch Lefel 3 yn rhoi’r sgiliau technoleg gwybodaeth hanfodol a’r profiad ymarferol sydd eu hangen i roi hwb sylweddol i yrfa sy’n datblygu ar draws ystod eang o sectorau diwydiannol.

Ardystiad a gydnabyddir gan y diwydiant: Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd prentisiaid yn ennill ardystiad a gydnabyddir gan y diwydiant, gan roi mantais gystadleuol iddynt yn y farchnad swyddi. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r arbenigedd a enillir drwy’r brentisiaeth hon, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous.

Dysgu ymarferol ac yn y byd go iawn: Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu ymarferol sy’n berthnasol i’r byd go iawn. Bydd prentisiaid yn ymarfer sgiliau yn y gweithle, gan gydweithio â chydweithwyr profiadol a derbyn cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol ALS a fydd yn eu harwain drwy bob cam o’r broses.

Cwricwlwm wedi’i deilwra: Mae ein cwricwlwm cynhwysfawr wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion technoleg gwybodaeth sefydliadau ar draws economi Cymru a thu hwnt. Byddwch yn dysgu am bynciau hanfodol fel diogelwch systemau, dadansoddi bygythiadau a risgiau, datblygiad parhaus, a phroffesiynoldeb.

Cynghorwyr profiadol a gwybodus: Drwy gydol y brentisiaeth, byddwn yn rhoi mynediad i chi at rwydwaith o gynghorwyr profiadol a fydd yn cynnig arweiniad, hyfforddiant, cefnogaeth ac adborth.

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol. Isod ceir trosolwg byr o’r pynciau a gwmpesir.

  • Diogelwch Systemau TG a Thelathrebu
  • Iechyd a Diogelwch ym maes TG
  • Egwyddorion Llywodraethu a Sicrwydd Gwybodaeth
  • Cynnal Asesiad Risg Diogelwch Gwybodaeth
  • Cynnal Gweithgareddau Rheoli Digwyddiadau Diogelwch Gwybodaeth
  • Ymarfer Proffesiynol mewn Cyd-destun TG

A llawer mwy…

  • Hyd nodweddiadol o 21 mis.
  • Sesiwn sefydlu ar gyfer prentisiaid a’u rheolwyr llinell.
  • Sesiynau hyfforddi tiwtor un-i-un a chymorth asesu.
  • Cefnogaeth gan adnoddau astudio annibynnol ar-lein.
  • 4 diwrnod asesu sgiliau hanfodol (2 ddiwrnod paratoi a 2 ddiwrnod tasg fyw).
  • Profion cadarnhau sgiliau hanfodol dwy awr o hyd.

Nid yw gweithgareddau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol i brentisiaid sydd ag eithriadau.

  • Diploma Lefel 3 fel Dadansoddwr Diogelwch Seiber
  • Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cyfathrebu
  • Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhifau

Lawrlwytho amlinelliad llawn y cwrs

Lawrlwytho PDF

Diddordeb mewn cofrestru?

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut y gall ACT eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Cysylltwch

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Dysgu yn y gweithle

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

Wedi'i ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy