Ynglŷn â’r cwrs hwn
Mae prentisiaeth Lefel 4 mewn Cydymffurfiaeth Reoleiddiol wedi’i chynllunio i ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth graidd sydd eu hangen i lwyddo mewn amrywiaeth o rolau cyflawni rheoleiddiol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
I bwy mae’r brentisiaeth?
- Yn ddelfrydol ar gyfer pobl sydd eisoes yn gweithio ac yn dymuno datblygu eu rôl ym maes cydymffurfiaeth a gweithgareddau rheoleiddiol.
- Yn addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau lle mae cydymffurfiaeth yn rhan o’u rôl swydd.
Cyflymu Twf eich Gyrfa: Gyda phrentisiaeth Cydymffurfiaeth Reoleiddiol Lefel 4, byddwch yn mireinio eich sgiliau gweinyddol ac yn ennill profiad ymarferol i hybu eich gyrfa sy’n datblygu ar draws ystod eang o ddiwydiannau.
Ardystiad a Gydnabyddir gan y Diwydiant: Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, byddwch yn ennill ardystiad a gydnabyddir gan y diwydiant, gan roi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r arbenigedd a enillir drwy’r brentisiaeth hon, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous.
Dysgu Ymarferol ac yn y Byd Go Iawn: Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu ymarferol ac yn y byd go iawn. Byddwch yn ymarfer sgiliau yn y gweithle, gan gydweithio â chydweithwyr profiadol a chael cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol ALS a fydd yn eich arwain drwy bob cam o’r broses.
Cwricwlwm wedi’i Deilwra: Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn ymgolli mewn pynciau hanfodol fel gweinyddiaeth strategol, deinameg sefydliadol, effeithiolrwydd arwain a chydlynu prosiectau.
Cynghorwyr Profiadol a Gwybodus: Drwy gydol eich prentisiaeth, bydd gennych fynediad at rwydwaith o gynghorwyr profiadol a fydd yn darparu arweiniad, hyfforddiant, cefnogaeth ac adborth.
Mae prentisiaeth Cydymffurfiaeth Reoleiddiol Lefel 4 yn cynnwys 7 uned orfodol, gan gynnwys:
- Egwyddorion Cydymffurfiaeth Reoleiddiol
- Fframweithiau Cyfreithiol Busnes a Defnyddwyr
- Asesu Risg ym maes Cydymffurfiaeth
- Gwirio a chefnogi cydymffurfiaeth
- Ymateb i Ddiffyg Cydymffurfiaeth
- Gweithio gydag eraill mewn cyd-destun cydymffurfiaeth
- Cydymffurfiaeth Reoleiddiol a Newid Ymddygiadol
- Hyd nodweddiadol o 18-24 mis.
- Sesiwn sefydlu ar gyfer prentisiaid a’u rheolwyr llinell.
- 8 gweithdy hanner diwrnod, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.
- 1 cyflwyniad ar ddiwedd y rhaglen.
- Sesiynau cymorth un-i-un misol sy’n para tua 2 awr.
- Cefnogaeth gan adnoddau hunan-astudio ar-lein.
- 4 diwrnod asesu Sgiliau Hanfodol* (2 ddiwrnod paratoi a 2 ddiwrnod tasg fyw).
- Profion cadarnhau Sgiliau Hanfodol* sy’n para 2 awr.
*Nid yw gweithgareddau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol i brentisiaid sydd ag eithriadau.
- Cydymffurfiaeth Reoleiddiol Lefel 4 Agored Cymru
- Sgiliau Hanfodol Lefel 2: Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol Lefel 2: Cymhwyso Rhifau
Nid yw gweithgareddau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol i brentisiaid sydd ag eithriadau.
Lawrlwytho amlinelliad llawn y cwrs
Lawrlwytho PDFDiddordeb mewn cofrestru?