16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 5

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer

Mae’r Brentisiaeth hon wedi’i hanelu at Reolwyr, Rheolwyr Canol ac Uwch Reolwyr. Mae rheolwyr sy’n gweithredu ar Lefel 5 yn chwarae rhan annatod mewn cynllunio strategol, rheoli newid a chyflawni canlyniadau.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sydd fwyaf addas i’ch rôl, a’ch busnes)

 

  • Cyfrannu at Ddatblygiad Cynllun Strategol
  • Dylunio Prosesau Busnes
  • Rheoli Newid Strategol
  • Darparu arweinyddiaeth a rheolaeth

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:

  • Arweinwyr Tîm

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 5

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau cychwyn hyblyg

Cost

Ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy