Mae ACT bellach wedi uno â’i chwaer sefydliad, ALS, i ddod yn un sefydliad o dan frand ACT.



                                Bydd gwybodaeth ALS Aerofod yn parhau i fod ar gael ar wefan ALS.
                            

Math o gwrs

Cwrs Byr

Lefel

Adnewyddiad

Lleoliad

Caerdydd

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

£216 y person
Darganfyddwch mwy

Mae’r cwrs Adnewyddu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (MHFA) i Oedolion yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ddiweddaru a chryfhau’r wybodaeth a’r sgiliau a gafwyd o’r cwrs MHFA i Oedolion gwreiddiol (12 awr).

Drwy’r sesiwn ryngweithiol hon, bydd cyfranogwyr yn:

  • Archwilio’r ymchwil a’r datblygiadau diweddaraf ym maes iechyd meddwl.
  • Dysgu ac atgyfnerthu’r tair prif weithred ar gyfer cefnogi rhywun a allai fod yn teimlo’n hunanladdol.
  • Gweithio drwy senarios cymhleth sy’n ymwneud â chymorth cyntaf iechyd meddwl.
  • Ymarfer a gwella eu sgiliau cymorth cyntaf iechyd meddwl mewn amgylchedd dysgu diogel.

Mae cynnwys y cwrs yn seiliedig ar ganllawiau arfer gorau, a ddatblygwyd drwy gonsensws arbenigol gan unigolion sydd â phrofiad byw o heriau iechyd meddwl, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd meddwl.

Dull Cyflwyno: Sesiwn wyneb yn wyneb

Oriau Dysgu: 1 diwrnod

Cost: £180 (gan gynnwys TAW)

Rhagofynion: Rhaid i gyfranogwyr fod wedi mynychu cwrs llawn MHFA Cymru (naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gwrs cyfunol/dysgu ar-lein) o fewn y 3 blynedd diwethaf er mwyn gallu mynychu cwrs adnewyddu. Bydd cwrs adnewyddu MHFA yn ymestyn y dystysgrif am 3 blynedd arall.

 

Os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno cofrestru nifer o aelodau o’r staff ar gyfer y cwrs hwn, gallwn ei gynnal yn eich gweithle. (Sylwch na fydd ACT/ALS yn talu am unrhyw gostau ychwanegol a allai godi oherwydd hyn.)

 

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sy’n dymuno deall a gwella eu gwybodaeth am iechyd meddwl, ac yn dymuno dysgu’r sgiliau i gefnogi lles cadarnhaol – eu hunain ac eraill – yn y gweithle.

Llyfr gwaith i’w gwblhau yn ystod y cwrs.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut y gall ACT eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Cysylltwch

Math o gwrs

Cwrs Byr

Lefel

Adnewyddiad

Lleoliad

Caerdydd

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

£216 y person
Darganfyddwch mwy