Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Mae ein Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Sylfaenol yn galluogi dysgwyr i ddod yn aelodau cymwys a phroffesiynol o dîm Clinigol o fewn lleoliad Gofal Sylfaenol.
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddarparu’r ymyriadau cywir yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ac i gofnodi ac adrodd ar unigolion yn eich gofal yn gywir, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gofal a’r driniaeth orau.
Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr Gweithwyr Gofal Iechyd Clinigol, Cynorthwywyr Gofal Iechyd a phobl sy’n cynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gyda diagnosis, triniaeth a gofal unigolion.
Mae hwn yn ddewis amgen i’r Brentisiaeth Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Clinigol.
(Ni all dysgwyr wneud y ddau)
Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).
Unedau Gorfodol
- Hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant.
- Hyrwyddo sgiliau cyfathrebu i’w defnyddio mewn lleoliadau gofal iechyd.
- Cymryd rhan mewn datblygiad personol.
- Egwyddorion diogelu.
- Ymarfer proffesiynol gofal iechyd.
Unedau Dewisol
- Techneg aseptig / gofal clwyfau.
- Deall cadw cofnodion.
- Profion pwynt gofal.
- Achosion a lledaeniad haint.
Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.
Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.
Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.
Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.
Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:
- Cymorth Gofal Iechyd Sylfaenol (Meddygaeth Teulu Cymru)
Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:
- yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
- yn byw yng Nghymru
- ddim mewn addysg llawn amser
- ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
- Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma
Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:
- fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
- gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
- ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
- gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
- cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru