Mae ACT bellach wedi uno â’i chwaer sefydliad, ALS, i ddod yn un sefydliad o dan frand ACT.



                                Bydd gwybodaeth ALS Aerofod yn parhau i fod ar gael ar wefan ALS.
                            

Math o gwrs

Cwrs Byr

Lefel

Lefel 1

Lleoliad

Caerdydd

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

£180 y person
Darganfyddwch mwy

Cwrs deuddydd sy’n anelu at gefnogi pobl i ddatblygu eu gwydnwch, yn ogystal â chydnabod eu cryfderau a’u cyfleoedd i ddatblygu. Bydd cyfranogwyr yn gallu diffinio beth yw straen ac adnabod symptomau straen, nodi’r ffactorau sy’n achosi straen iddynt hwy eu hunain, a datblygu ffyrdd o gefnogi eu hunain ac eraill. Anogir cyfranogwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau, a’r prif ddull asesu fydd cwblhau llyfr gwaith yn ystod yr hyfforddiant.

Dull Cyflwyno: Wyneb yn wyneb

Oriau Dysgu: 2 ddiwrnod (14 awr o ddysgu)

Rhagofynion: Gwaith cyn y cwrs i’w gwblhau cyn dyddiad dechrau’r cwrs

Pynciau a Trafodir

  • Deall gwydnwch a’i rôl o ran lles.
  • Adnabod arwyddion a symptomau straen.
  • Achosion a sbardunau straen yn y gweithle ac yn bersonol.
  • Strategaethau ymarferol i feithrin gwydnwch.
  • Technegau rheoli straen ar gyfer bywyd bob dydd.
  • Datblygu meddylfryd cadarnhaol ac arferion hunanofal.
  • Cynnal perfformiad a lles dan bwysau.

 

Wedi’i Anelu at:

  • Gweithwyr mewn rolau heriol neu rolau sy’n golygu pwysau mawr
  • Rheolwyr a goruchwylwyr sy’n cefnogi lles y tîm
  • Gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd a gofal cymdeithasol
  • Athrawon, staff addysg, a gweithwyr ieuenctid
  • Staff y gwasanaethau brys a staff rheng flaen
  • Unrhyw un sydd am wella eu gallu i reoli straen ac addasu i newid

 

Os ydych chi’n gyflogwr sydd am gofrestru nifer o aelodau o staff ar y cwrs hwn, gallwn gynnal y cwrs ar y safle yn eich gweithle. (Sylwch na fydd ACT/ALS yn talu unrhyw gostau ychwanegol a allai godi o hyn)

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob gweithiwr, o aelodau tîm i reolwyr, sydd am lwyddo wrth wynebu heriau. Byddwch yn dysgu sut i drefnu eich gwaith, nodi gweithgareddau sy’n draenio eich egni, a datblygu ffordd iachach o ymdopi â straen.

Mae’r asesiad yn cynnwys llyfr gwaith sy’n cael ei gwblhau yn ystod y cwrs deuddydd.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, byddwch yn ennill uned ‘Gwella Hyder Personol’ a 2 gredyd tuag at y cymhwyster ‘Cadernid a Rheoli Straen’ (Lefel 2).

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut y gall ACT eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Cysylltwch

Math o gwrs

Cwrs Byr

Lefel

Lefel 1

Lleoliad

Caerdydd

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

£180 y person
Darganfyddwch mwy