Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Mae ein Diploma NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt yn galluogi dysgwyr i lansio a datblygu eu gyrfa fel trinwyr gwallt, barbwyr, gwneuthurwyr gwallt gosod a rheolwyr salonau.
Mae’r Brentisiaeth hon yn addas ar gyfer ymgeiswyr sy’n gweithio mewn rôl trin gwallt mewn salon broffesiynol. Bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau ac yn ennill cymhwyster yn y gweithle.
Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â phedair uned orfodol ac o leiaf dwy uned ddewisol er mwyn cwblhau’r cymhwyster:
Mae’r unedau gorfodol yn cynnwys:
- Steilio a gorffen gwallt
- Gosod a thrin gwallt
- Torri gwallt gan ddefnyddio technegau sylfaenol
- Lliwio a goleuo gwallt
- Siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a chroen y pen
Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.
Bydd y cymhwyster yn rhedeg dros 14 mis, yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad cychwynnol, a bydd gofyn i ddysgwyr fynychu Y Salon yn ACT unwaith y mis i gymryd rhan mewn gweithdai datblygu sgiliau.
Ar ôl cofrestru, dyrennir asesydd profiadol yn y diwydiant i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwyr yn eu gweithle unwaith y mis er mwyn casglu tystiolaeth o gymhwysedd trwy arsylwadau cynlluniedig drwy gydol y cymhwyster.
Wedi cwblhau’r cymhwyster, gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen at ein Prentisiaeth Trin Gwallt Lefel 3. Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.
Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys:
- Arlunydd Lliw
- Steilydd Cyfryngau
- Perchennog / Rheolwr Salon
- Darlithydd/Hyfforddwr/Asesydd